Cofiant y Parch Thomas Jones o Ddinbych (1897)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Wynebddalen Cofiant y Parch Thomas Jones 1897.jpg
Wynebddalen
Data cyffredinol
Awdur Jonathan Jones, Llanelwy (1849-1914)
Cyhoeddwr Gwasg Gee
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Genre Bywgraffiad,
Dynodwyr
Er cof am y diweddar Barch Thos Jones, Dynbych .. NLW3364382.jpg

Mae Cofiant y parch. Thomas Jones, o Ddinbych : yn cynnwys ei gysylltiad â diwinyddiaeth a llenyddiaeth ei oes a hanes a symudiadau y Methodistiaid Calfinaidd ac a'r ordeiniad cyntaf a fu ar eu gweinidogion yn y flwyddyn 1811 : gyda deg ar hugain ddarluniau, gan Jonathan Jones, Llanelwy [1] yn gofiant a gyhoeddwyd gan Wasg Gee ym 1897. [2]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gyfrol yn adrodd hanes Thomas Jones, Dinbych, (1756-1820). [3] Roedd Thomas Jones yn weinidog amlwg ac yn un o lenorion mwyaf galluog y Methodistiaid yng Nghymru. Fei ganwyd yng Nghaerwys yn Sir y Fflint. Roedd yn ddyn amryddawn a oedd yn fardd ar y mesurau caeth, yn emynydd, yn hanesydd, yn ddiwinydd ac yn gofiannydd. Ysgrifennwyd y llyfr ar gyfer cystadleuaeth ar y testun Bywgraphiad y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl 1892.

Cynnwys[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r cofiant yn sôn am fagwraeth Jones yng Nghaerwys ac yn rhoi hanes rhai o'i hynafiaid a'i deulu agosaf. Ceir hanes ei addysg a bwriad ei deulu iddo ddyfod yn offeiriad Eglwys Loegr a sut bu iddo wrthod dilyn y llwybr hwnnw oherwydd dylanwad y Methodistiaid arno. Mae sôn am gychwyn ei daith fel pregethwr Methodistaidd a sut y bu'n cydweithio â Thomas Charles i ledaenu Methodistiaeth yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Mae trafodaeth am ei waith gyda Chymdeithas y Beibl a Chymdeithas Genhadol Llundain. Mae trafodaeth fanwl am ei waith yn gofalu am gynulleidfaoedd y Methodistiaid yn yr Wyddgrug, Rhuthun a Dinbych ac am y rhan bu'n chware wrth berswadio'r Methodistiaid i ordeinio ei weinidogion ei hun. Mae penodau sy'n ymdrin â'i amddiffyniad o Fethodistiaeth Galfinaidd wedi i Fethodistiaid Wesleaidd megis Edward Jones, Bathafarn a John Bryan dechrau Efengylu dros y Methodistiaid Wesleaidd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae hefyd triniaeth o'i wrthwynebiad i begwn arall Methodistiaeth sef Uchel Galfiniaeth. Wedi rhoi hanes ei salwch olaf a'i marwolaeth daw penodau yn ymdrin â'i gyfraniad a'i ddawn fel pregethwr awdur a bardd a thrafodaeth am ei bwysigrwydd a'i dylanwad fel un o'r Methodistiaid cynharaf.

Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive. [4]

Penodau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:

  • Pennod I. Blynyddoedd boreol ei oes 1756 - 1772
  • Pennod II. Blynyddoedd o argyhoeddiadau a dylanwadau croesion 1772 - 1779
  • Pennod III. Blynyddoedd o gymhellion i bregethu 1779 – 1783
  • Pennod IV. Blynyddoedd cyntaf fel pregethwr hyd ei symudiad o Gaerwys 1783 -1795.
  • Pennod V. Ei symudiad o Gaerwys i'r Wyddgrug, a'r hanes am y naw mlynedd y bu ef yno 1795 – 1804.
  • Pennod VI. Ei symudiad o'r Wyddgrug i Ruthun a'i hanes tra yn preswylio yn y dref honno 1804 - 1809
  • Pennod VII. Ei amddiffyniad i'r athrawiaeth Galfinaidd 1805 - 1811
  • Pennod VIII. Ei symudiad o Ruthun i Ddinbych , a'i hanes am y saith mlynedd gyntaf yn y dref honno. 1809 - 1816
  • Pennod IX. Ordeiniad cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd a'i gysylltiad ef a hynny 1803 - 1811
  • Pennod X. Ei hanes yn Syrior Goch, hyd ei ddychweliad i Ddinbych yn ôl. 1816 - 1818
  • Pennod XI. Ei hanes ar ôl ei ddychweliad i Ddinbych. 1818 - 1820.
  • Pennod XII. Ei olygiad ar athrawiaeth yr lawn, a'i wrth wynebiad i Uchel Galfiniaeth. 1814 - 1820
  • Pennod XIII. Hanes ei fisoedd olaf, a'i farwolaeth. 1820
  • Pennod XIV. Sylwadau arno fel pregethwr
  • Pennod XV. Golwg arno fel awdur ac fel bardd
  • Pennod XVI. Adfyfyrdod ar ei hanes, ei gymeriad, ac ar effeithiau pwysig ei fywyd

Darluniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal â hanes y gwrthrych mae'r llyfr yn frith o ddarluniau a ffotograffau yn ymwneud a'i bywyd Dyma ddetholiad o rai ohonynt

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "MARW Y PARCH JONATHAN JONES - Y Dinesydd Cymreig". s.t. 1914-06-10. Cyrchwyd 2020-01-23.
  2. Jones, Jonathan (1897). Cofiant y Parch. Thomas Jones o Ddinbych. Copi am ddim o'r gyfrol ar Internet Archive: Dinbych : T. Gee.
  3. "JONES, THOMAS (1756 - 1820), awdur a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-23.
  4. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2020-01-22.