Steve Eaves

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Steve Eaves
Steve Eaves01CS.jpg
Steve Eaves yng Ngŵyl Tegeingl, 2012.
Ganwyd 1952 Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Bardd, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
Plant Manon Steffan Ros Edit this on Wikidata
Steve Eaves, 2012.

Canwr, bardd a chyfansoddwr ydy Steve Eaves (ganwyd 1952 yn Stoke-on-Trent), sydd wedi ei ddylanwadu gyn y 'blŵs'.[1] Mae wedi bod yn aelod o sawl band gan gynnwys Steve Eaves a'i Driawd a dyfodd i gael ei hail-enwi'n Steve Eaves a Rhai Pobl, fel canwr a gitarydd.

Mae dwy ferch enwog gan Steve, Lleuwen a Manon Steffan Ros.

Bu'n gweithio am rai blynyddoedd mewn ffatrïoedd ac ar safleoedd adeiladu cyn mynd i Goleg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan, lle graddiodd mewn Cymraeg a Ffrangeg. Bu'n ennill bywoliaeth ym maes polisi iaith a chyfieithu, ac mae bellach yn gweithio fel uwch ymgynghorydd i Gwmni Iaith Cyf.

Bu'n weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a Mudiad Sosialaidd Gweriniaethol Cymru, a chyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi Noethni (1983) a Jazz yn y Nos (1986), sydd ymysg y goreuon yng Nghyfres Beirdd Answyddogol y Lolfa. Rhyddhaodd sawl albwm gyda'i fand Steve Eaves a'i Driawd (a newidiwyd yn ddiweddarach i Steve Eaves a Rhai Pobl, i adlewyrchu'r twf yn nifer yr aelodau), a dau aelod cyson o'i fand fu Elwyn Williams a'r Prifardd Iwan Llwyd.

Mae ei albymau cynnar yn cynnwys Viva La Revolucion Galesa! (EP, Stiwdio'r Felin, Felinheli, 1984), Cyfalaf a Chyfaddawd (LP, Sain, 1985) Sbectol Dywyll (LP, Stiwdio Les, Bethesda, 1989) Plant Pobl Eraill (LP, Ankst, 1990), Tir Neb (EP, er budd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1990), Croendenau (LP, Ankst, 1992), Y Canol Llonydd Distaw (LP, Ankst, 1996) a Iawn (LP, Sain, 2001).

Yn 2007 rhyddhaodd ei albwm, Moelyci (Sain). Mae'r Bardd o fri, Gerallt Lloyd Owen, yn adrodd darnau o farddoniaeth fel rhan o'r albwm gyda cherddoriaeth Steve Eaves a'i fand yn gyfeiliant teimladwy ac effeithiol i'r geiriau cain. Mae'r albwm yn deyrnged i wraig diweddar Steve Eaves, Siân. Mae'r teitl, 'Moelyci' yn cyfeirio at y mynydd lle gwasgarwyd llwch ei wraig.

Ar ddechrau 2011, cyhoeddodd Steve Eaves ei albwm, Ffoaduriaid (Sain.) Enillodd Wobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau RAP BBC Radio Cymru yn yr un flwyddyn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Discograffiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Steve Eaves
  • Viva La Revolucion Galesa! EP 1984
  • Cyfalaf a Chyfaddawd 1985, (Sain)
  • Sbectol Dywyll 1989 (Ankst)
  • Tir Neb 1990
  • Plant Pobl Eraill 1991 (Ankst)
  • Croendenau 1992, (Ankst)
  • Y Canol Llonydd Distaw 1996, (Ankst)
  • Iawn 2005, (Sain)
  • Moelyci 2007, (Sain)
  • Ffoaduriaid (Casgliad Adolygol) 2011, (Sain)

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.