Iwan Llwyd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Iwan Llwyd
Ganwyd 15 Tachwedd 1957 Edit this on Wikidata
Bu farw 28 Mai 2010 Edit this on Wikidata (52 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth bardd Edit this on Wikidata

Bardd, Prifardd a cherddor oedd Iwan Llwyd Williams (15 Tachwedd 195728 Mai 2010) [1][2].

Ganed Iwan Llwyd yng Ngharno, Powys cyn symyd i Dal-y-bont, Dyffryn Conwy ac yna i Fangor yn 10 oed. Mynychodd Ysgol Gynradd Tal-y-bont, Conwy; Ysgol Gymraeg Sant Paul, Bangor ac Ysgol Friars, Bangor cyn astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl iddo raddio gydag MA mewn barddoniaeth ganol oesol, dechreuodd weithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus cyn mynd yn hunan-gyflogedig.[3]

Daeth yn enwog fel bardd wedi iddo ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1990[4], ar y testun Gwreichion. Cafodd ei lyfr, Be 'Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia?: Cerddi 1990-99, ei restru ar Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn, 2004.

Yn gerddor yn ogystal â bardd, fu'n canu'r gitâr fas gyda Geraint Lövgreen a'r Enw Da, yn ogystal â gyda Steve Eaves. Roedd yn aelod o'r grŵp Doctor ar ddechrau'r 1980au.[5]

Roedd yn un o sefydlwyr y mudiad iaith Cymuned.[6]

Bu farw yn ei fflat ym Mangor yn 52 mlwydd oed. Yn ôl y cwest, canfuwyd ei gorff ychydig ddyddiau ar ôl iddo farw, a cofnododd y crwner achos o farwolaeth naturiol.[7]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwobrau ac Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfieiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Proffil ar wefan Plant ar-lein
  2. Death of Welsh language poet Iwan Llwyd, aged 52 BBC News. 28-05-2010. Adalwyd ar 28-10-2010
  3. Gwefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Adalwyd ar 30-05-2010
  4. "Colli Iwan Llwyd". Golwg 360. 2010-05-28.
  5. "Beirdd mewn bandiau". 2015-06-01. p. 10. Cyrchwyd 2019-09-30.
  6. BBC Cymru
  7. Iwan Llwyd – cwest yn cofnodi marwolaeth naturiol , Golwg 360, 26 Awst 2010.


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Cerddcymru.png Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato