Jon Gower

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Jon Gower, (weithiau Jonathan Gower) sy'n wreiddiol o Lanelli yn awdur sy'n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn ddarlledwr yn y ddwy iaith. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Bu'n ohebydd Celfyddydau a Chyfryngau i'r BBC, a mae wedi cynhyrchu nifer o raglenni Cymraeg a Saesneg i'r teledu a'r radio.[1]

Enillodd y wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2012 (£2,000) am y ffuglen orau sef y brif nofel Y Storïwr, a derbyniodd hefyd y Brif Wobr yn yr Adran Llyfrau Cymraeg. (£6,000). Mae'r nofel yn dilyn hanes Gwydion McGideon, bachgen ifanc sy'n meddu ar ddawn dweud arbennig, tra ei fod yn dilyn trywydd sy'n arwain at ei elyn pennaf.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2011 Y Storiwr, Gomer
  • 2010 Uncharted, Addasiad o 'Dala'r Llanw' gyda diwedd diwygiedig, Gomer
  • 2009 Dala'r Llanw, Gomer
  • 2004 A Long Mile, Cyngor Sir Gaerfyrddin
  • 2002 I Know Another Way: From Tintern to St David's, golygydd ; lluniau gan Paul Davies, Gomer
  • 2001 An Island Called Smith, Gomer
  • 2000 Llanelli, Seren
  • 2000 Big Fish, Gwasg Carreg Gwalch
  • 1999 Wales in our Own Image, cyd-olygydd, InBooks
  • 1999 A Year in a Small County, golygydd, Gomer
  • 1996 Homeland, golygydd, Gomer

Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2011 Cymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli
  • 2012 Llyfr Cymraeg y flwyddyn Y storiwr.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]



Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.