Rebel Rebel

Oddi ar Wicipedia
Rebel Rebel
AwdurJon Gower
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781784612955
GenreFfuglen

Casgliad o 21 stori fer gan Jon Gower yw Rebel Rebel a gyhoeddwyd yn 2016 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

'Ambell waith mae stori fel breuddwyd, yn cyrraedd ganol nos, yn gwyfynu'n dawel drwy ffenest â swn pitw, pitw, fel siffrwd sidan...' Mae'n mynd â ni i bedwar ban byd ac yn ein cyflwyno i gymeriadau ffuglennol a gwir mewn sefyllfaoedd credadwy a ffantasiol.

Mae Jon Gower yn awdur nofelau, straeon byrion a llyfrau ffeithiol yn Gymraeg a Saesneg. Enillodd ei nofel Y Storïwr wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2012 ac roedd Jon yn un o Gymrodyr Rhyngwladol cyntaf Gŵyl y Gelli. Mae e'n byw yng Nghaerdydd gyda llond tŷ o fenywod: ei wraig Sarah a'i ferched Elena ac Onwy.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017