Eileen Beasley

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eileen Beasley
Ganwyd Catherine Eileen James Edit this on Wikidata
4 Ebrill 1921 Edit this on Wikidata
Henllan Amgoed Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Awst 2012 Edit this on Wikidata (91 oed)
Achos: Canser y pancreas Edit this on Wikidata
Henllan Amgoed Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth athro ysgol, linguistic rights activist Edit this on Wikidata
Priod Trefor Beasley Edit this on Wikidata
Llun eiconig o Eileen Beasley o'r cyfnod, a'i mab Elidyr a'i merch Delyth

Ymgyrchydd hawliau iaith oedd Eileen Beasley (4 Ebrill 192112 Awst 2012).[1] Gyda'i gŵr Trefor Beasley mae hi'n enwog am eu hymgyrch i fynnu papur treth Cymraeg (neu ddwyieithog) gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn ystod pumdegau'r ugeinfed ganrif. Yr adeg honno nid oedd statws i'r Gymraeg o gwbl: dim ffurflenni swyddogol gan gyrff cyhoeddus nac arwyddion ffyrdd dwyieithog. Mae Eileen Beasley wedi ei galw yn "fam gweithredu uniongyrchol" yng Nghymru ac yn "Rosa Parks Cymru".[angen ffynhonnell] Ysgrifennodd Angharad Tomos lyfr am ymgyrch Eileen sef 'Darn bach o bapur'[2]

Cefndir ac Ymgyrch[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o ardal Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin oedd Catherine Eileen James. Aeth i Goleg Prifysgol Caerdydd a daeth yn athrawes. Glöwr ym Mhwll y Morlais Llangennech oedd Trefor. Fe wnaethant gwrdd yng nghyfarfodydd Plaid Cymru a daethant o dan ddylanwad D. J. Davies a'r WEA. Priododd y ddau ar 31 Gorffennaf 1951[3] a phrynu tŷ yn yr Allt, Llangennech ym 1952.

Ar ôl priodi a symud i Langennech y gwnaethant benderfynu y dylent wrthod talu'r dreth ar y tŷ oni chaent gais yn Gymraeg. Buont yn y llys 16 gwaith ac fe fu'r bwmbeilïaid yno bedair gwaith, gan fynd â mwyafrif eu dodrefn o'r tŷ ar rai achlysuron.[4] Ar ôl wyth mlynedd o ymgyrchu fe gawsant eu papur treth dwyieithog ym 1960.

Arloesi a Dylanwad[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yn unig roedd y Gymraeg yn anweledig fel iaith ar gyfer materion swyddogol yn y cyfnod hwn, roedd ymgyrchu mor uniongyrchol er mwyn defnyddio'r Gymraeg gyda'r wladwriaeth yn beth newydd ac yn gwbl anarferol. Meddai Dafydd Iwan:

Wyt ti'n cofio teulu'r Beasleys yn gwrthod talu'r dreth?
A phobl Llanelli'n gofyn, 'Y ffylied dwl, i beth?'
Cofio'u haberth,
a'u gweledigeth.
Daw fe ddaw yr awr yn ôl i mi.

Dafydd Iwan, Daw fe ddaw yr awr

Er mai Cymraeg oedd iaith gyntaf mwyafrif llethol pobl Llanelli (90%) ar y pryd, fel mwyafrif swyddogion Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli, y farn gyffredinol yn y dref yr adeg honno a gweddill Cymru, oedd bod y teulu yn afresymol yn eu gofynion. Roedd statws y Gymraeg yn isel tu hwnt, a'i siaradwyr cyffredin yn barod i amddiffyn lle'r Saesneg fel yr unig iaith swyddogol yng Nghymru.

Fodd bynnag, ysbrydolwyd rhai gan ymgyrch y Beasleys. Meddai Saunders Lewis yn anterth ei ddarlith enwog Tynged yr Iaith ym 1962, a fu'n ysbrydoliaeth i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr un flwyddyn:

A gaf i alw eich sylw chi at hanes Mr a Mrs Trefor Beasley. Glöwr yw Mr Beasley. Yn Ebrill 1952 prynodd ef a'i wraig fwthyn yn Llangennech gerllaw Llanelli, mewn ardal y mae naw o bob deg o'i phoblogaeth yn Gymry Cymraeg. Yn y cyngor gwledig y perthyn Llangennech iddo y mae'r cynghorwyr i gyd yn Gymry Cymraeg: felly hefyd swyddogion y cyngor. Gan hynny, pan ddaeth papur hawlio'r dreth leol atynt oddi wrth The Rural District Council of Llanelly, anfonodd Mrs Beasley i ofyn am ei gael yn Gymraeg. Gwrthodwyd. Gwrthododd hithau dalu'r dreth nes ei gael. Gwysiwyd hi a Mr Beasley dros ddwsin o weithiau gerbron llys yr ustusiaid. Mynnodd Mr a Mrs Beasley fod dwyn y llys ymlaen yn Gymraeg. Tair gwaith bu'r beilïod yn cludo dodrefn o'u tŷ nhw, a'r dodrefn yn werth llawer mwy na'r dreth a hawlid. Aeth hyn ymlaen am wyth mlynedd. Yn 1960 cafodd Mr a Mrs Beasley bapur dwy-ieithog yn hawlio'r dreth leol oddi wrth Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli, a Chymraeg y bil lawn cystal â'i Saesneg . . . Fe ellir achub y Gymraeg. Y mae Cymru Gymraeg eto'n rhan go helaeth o ddaear Cymru ac nid yw'r lleiafrif eto'n gwbl ddibwys. Dengys esiampl Mr a Mrs Beasley sut y dylid mynd ati.[5]

Saunders Lewis, Tynged yr Iaith (1962)

Roedd y gweithredu uniongyrchol torfol a welwyd gan aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y chwedegau (a'r degawdau dilynol) wedi'u hysbrydoli i raddau helaeth gan weithredu unig teulu'r Beasleys yn ystod y degawd blaenorol.

Ddechrau'r 60au bu Trefor yn annerch cyfarfod o gangen Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o Blaid Cymru [6]

Plaid Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Drwy weithgarwch Plaid Cymru y bu iddynt gwrdd yn y lle cyntaf. Yn etholiad seneddol 1955 safodd Trefor Beasley dros Blaid Cymru yn etholaeth Aberdâr. Safodd y ddau dros ward Llangennech yn etholiad Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli a chafodd y ddau yr un faint o bleidleisiau, sef 913 a oedd yn ddigon i'w hethol. Ar y pryd nid oedd gan adeiladau'r cyngor dai bach i fenywod hyd yn oed.[7]

Cofio[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Trefor Beasley ym 1994. Bu farw Eileen Beasley yn 2012.[8]

Ar achlysur (gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg) talu teyrnged i Eileen Beasley yn 2006, canodd Gerallt Lloyd Owen gywydd iddi yn moli ei chyfraniad i sicrhau parhad y Gymraeg:

Oedd, yr oedd dy iaith yn ddrud
Eithafol ei threth hefyd
Ond ei dyled a delaist
Fwy na llawn trwy fynnu llais,
Trwy fynnu prynu parhad
Yn wyneb ei diflaniad
Dewr oet yn ei brwydr hi
A rhoddaist hyder iddi
A thra byddo dyfodol
I'r Gymraeg yma ar ôl
Fe welir naddu filwaith
Dy enw di yn dy iaith.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Eileen Beasley: Welsh language campaigner (en) , independent.co.uk, 28 Medi 2012. Cyrchwyd ar 4 Gorffennaf 2017.
  2. Eileen Beasley - Rosa Parks Cymru ar wefan Gweriniaeth Cymru
  3. Tudalen y teulu ar Genealogy.com
  4. Darlith gan ŵyr i Trefor ac Eileen, Dr Cynog Prys, ym Mhabell y Cymdeithasau, Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, 2012
  5. Tynged yr Iaith, 1962
  6. Profiad personol Dyfrig Thomas
  7. Darlith gan ŵyr i Trefor ac Eileen ym Mhabell y Cymdeithasau, Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, 2012
  8.  Eileen Beasley wedi marw. Golwg360 (12 Awst 2012).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]