Gwenno Teifi

Oddi ar Wicipedia
Gwenno Teifi
GanwydGwenno Teifi Ffransis Edit this on Wikidata
4 Chwefror 1987 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethymgyrchydd Edit this on Wikidata

Ymgyrchydd iaith Cymraeg o Lanfihangel-ar-Arth, yw Gwenno Teifi (enw llawn Gwenno Teifi-Ffransis). Ym mis Chwefror 2004 cafodd ei harestio yn ystod protest tu allan i stiwdio Radio Sir Gâr, ac o ganlyniad fe dreuliodd gyfnod yn y carchar. Hi oedd yr aelod cyntaf o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i gael ei garcharu ers 1995. Fe dreuliodd gyfnod arall yn y carchar yn 2007 ar ôl gwrthod talu dirwy, yn dilyn paentio slogan ar siop yn nhref Aberystwyth.[1]

Addysg[golygu | golygu cod]

Astudiodd Gwenno wleidyddiaeth ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae hi'n ferch i Ffred Ffransis ac yn wyres i Gwynfor Evans

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwenno Teifi: Nôl yn y carchar. BBC Cymru (4 Awst 2008).



Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.