Geraint Jones (Trefor)
| Geraint Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | Gwynedd |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, cerddor |
| Plant | Morgan Jones |
Awdur Cymraeg, cerddor, hanesydd ac ymgyrchydd iaith yw Geraint Jones (ganwyd 1942). Ganwyd a magwyd yn Nhrefor, Arfon, Gwynedd.[1] Fo oedd y cyntaf i fynd i'r carchar fel rhan o'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ymwneud â gwleidyddiaeth lleol yn ardal Trefor, yn aelod o Gyngor Dosbarth Dwyfor, Gwynedd (1973-87). Mae yn arweinydd Seindorf Trefor er 1969 ac yn aelod o'r Seindorf er 70 o flynyddoedd. Bu'n brifathro Ysgol yr Eifl, Trefor o 1983 - 1997.[2]
Mae’n un o sefydlwyr ac yn Rheolwr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, ac yn olygydd ar ei chylchgrawn digidol, Utgorn Cymru , a gyhoeddir yn chwarterol ar lein ac ar grynoddisg ac a ddosberthir i'r deillion yn ogystal. Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023 dyfarnwyd Medal Syr T.H. Parry-Williams iddo am ei gyfraniad nodedig i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.
Astudiodd Geraint Jones y Gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth 1960-63 a chymwyso ei hun yn athro ym 1964.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ym 1968 priododd Sheena Williams, merch o Drefor, a chawsant ddau o blant - Caren sy’n nyrsio ym Mangor, a Morgan, cyflwynydd ar S4C a chyfieithydd, y ddau yn magu teuluoedd yn Nhrefor.
Cymdeithas yr Iaith
[golygu | golygu cod]Geraint oedd yn bennaf gyfrifol am yr ymgyrch dros gael ffurflenni a disg treth ffordd Cymraeg. Bu ger bron ynadon Castell-Nedd droeon ym 1965. Ar 28 Ebrill 1965 ac ar 28 Ebrill 1966 dedfrydwyd ef gan Lys Ynadon Abertawe i fis o garchar fel rhan o'r un ymgyrch yn ogystal â mynnu gwŷs Gymraeg. Geraint Jones, felly, oedd y cyntaf i gael ei garcharu dros y Gymraeg ac erbyn diwedd y flwyddyn roedd tri arall wedi'i ddilyn: Gwyneth Wiliam, Neil ap Siencyn a Hywel ap Dafydd.
Roedd Geraint yn bresennol yng nghyfarfod sefydlu Gymdeithas ar 4 Awst 1962 ym Mhontarddulais, ac roedd hefyd yn rhan o’r protest ar Bont Trefechan ar 2 Chwefror 1963. Bu hefyd yn ysgrifennydd y Gymdeithas rhwng 1965 ac 1967.
Yn 2025, cyhoeddwyd gyfrol swmpus o’i waith gan Wasg y Lolfa yn adrodd hanes am ei gyfraniad i'r ymgyrch iaith a'r Gymdeithas, Brwydr yr Iaith (1963-67); cyhoeddwyd gan Y Lolfa.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Rhen Sgŵl (1978)
- Cywrain Wŷr y Cyrn Arian (Pwyllgor Seindorf Trefor, 1988)
- Dianc i Drybini (1991)
- Carchar nid Cartref (Clwb y Bont Pwllheli, 1992)
- Hen Gerddorion Eifionydd (Cyngor Sir Gwynedd, 1993)
- Cyrn y Diafol: Golwg ar Hanes Cynnar Bandiau Pres Chwarelwyr Gwynedd (Gwasg Gwynedd, 2004)
- Band yr Hendra, Wmpa-Wmpa! (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
- Trefor (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr 2006)
- Epil Gwiberod yr Iwnion Jac (Gwasg y Bwythyn, 2009)
- Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
- (gol.) Malcom Allen (Y Lolfa, 2009)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Geraint Jones, Trefor - Cof y Cwmwd". cof.canolfanuwchgwyrfai.cymru. Cyrchwyd 2025-12-12.
- ↑ Gwefan y BBC - Seindorf Arian Trefor
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan yr Academi Archifwyd 2008-10-06 yn y Peiriant Wayback
- Protest iaith, 1999