Jamie Bevan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jamie Bevan
Jamie Bevan.jpg
Jamie Bevan yn annerch y dorf cyn ei ddedfryd ym mis Awst 2012
Ganwyd Gareth Jamie Bevan Edit this on Wikidata
20G Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Galwedigaeth ymgyrchydd Edit this on Wikidata

Ymgyrchydd iaith Gymraeg o Ferthyr Tudful ac aelod amlwg o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yw Jamie Bevan (enw llawn Gareth Jamie Bevan).[1] Gwrthododd Jamie dalu £1,000 o iawndal a chostau i Lys Ynadon am iddo dorri i fewn i swyddfeydd y Blaid Geidwadol yng Ngogledd Caerdydd ddiwrnod cyn ymweliad David Cameron. Gwnaeth hyn oherwydd ei gred fod Senedd Lloegr yn anwybyddu S4C.

Cwynodd 3 gwaith am ohebiaeth uniaith Saesneg gan Wasanaeth y Llysoedd, ond fe gafodd orchymyn llys uniaith Saesneg.[2]

Cafodd Bevan ei ddedfrydu i 35 diwrnod yn y carchar gan ynadon Merthyr Tudful yn 2012. Dywedodd ei fod am ddefnyddio'r achos i dynnu sylw at ohebiaeth uniaith Saesneg a dderbyniodd gan y llysoedd.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]