Steffan Cravos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Steffan Cravos / Lambchop
Enw
(ar enedigaeth)
Steffan Cravos
Llysenw/au Lambchop
Ganwyd 1977 (39–40 oed)
Lleoliad Caerdydd
Math o Gerddoriaeth Rap, hip hop
Gwaith DJ, cerddor, artist
Offeryn/nau Trofwrdd
Cyfnod perfformio 1991–present
Label Fitamin Un
Perff'au eraill Curig Huws, Tystion, Afal Drwg Efa

Cerddor, perfformiwr ac artist o Gymro yw Steffan Cravos (ganwyd 1977).

Fel "DJ Lambchop", roedd Cravos yn adnabyddus am ei arddull trofwrdd "rhwbio a chrafu". Mae hefyd yn aelod sylfaenol o'r Tystion, band hip hop Cymraeg.

Fel Lembo, mae wedi cynhyrchu a dogfennu celf stryd yng Nghymru a thu hwnt.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd yng Nghaerdydd ond symudodd y teulu i Gaerfyrddin. Mynychodd Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin yn ystod y cyfnod pan ffurfiwyd y band Gorky's Zygotic Mynci yn yr ysgol. Yr oedd am gyfnod byr yn aelod cynnar o'r band yn chwarae'r ffidil a gwneud effeithiau sain, a mae ganddo gydnabyddiaethau ar nifer o ganeuon ar y casgliad Patio.

Bu'n weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith ers yn ifanc a roedd yn gadeirydd y corff yn 2005-6.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gwaith Steffan Cravos, ynghyd ag allbwn ei act hip-hop, Tystion, wedi sbarduno’r sîn roc Gymraeg ers chwarter ganrif. Dechreuodd gyfrannu i’r sîn fel golygydd ffansîn, yn cyhoeddi Psycho yn y 1990au cynnar cyn cyfnod byrhoedlog fel aelod o Gorky’s Zygotic Mynci. Dylanwadwyd Cravos gan hiphopwyr Americanaidd gan gynnwys Public Enemy, KRS-One, ac A Tribe Called Quest. Cyfarfu â Gruffydd Meredith (MC Mabon) – a fyddai yn ddiweddarach yn aelod o Tystion – yn ystod y cyfnod hwn, a bu’r ddau yn cyd-chwarae am gyfnod yn y band Datsyn.

Yn 1996 rhyddhaodd Cravos sengl caset hip-hop, Dan Y Belt, dan yr enw MC Sleifar gydag Alffa Un (Curig Huws) ar ei label annibynnol newydd, Fitamin Un. Roedd y traciau yn nodedig am eu defnydd o dechneg a oedd yn arloesol yn y sîn roc Gymraeg ar y pryd, lle mae un rapiwr yn gorffen llinell y llall (yn nodweddiadol o gerddoriaeth y Beastie Boys ymhlith eraill).

Ffurfiwyd Tystion yn ystod 1995 gan Cravos, Meredith, a Huws. Yn ystod y saith mlynedd nesaf newidiodd aelodaeth y criw yn rheolaidd, gyda dros 20 o gerddorion yn cyfrannu i’w tri albwm (Rhaid I Rywbeth Ddigwydd, Shrug Off Ya Complex, a Hen Gelwydd Prydain Newydd). Hefyd, rhyddhawyd nifer o senglau a’r EP Brewer Spinks, a oedd yn ‘Single of the Week’ yn y cylchgrawn Saesneg Melody Maker. Daeth Tystion i sylw John Peel, a recordiwyd sesiwn iddo yn 2000. Mae’r traciau yma yn ymddangos ar Hen Gelwydd…, sydd heddiw yn adnabyddus fel campwaith y band; mae sŵn y record yn fwy sgleiniog na gwaith cynnar y grŵp, ac mae’r traciau, sydd yn delio â pynciau gwleidyddol megis llosgach yn y gymdeithas ddinesig, dyfodiad y Cynulliad, a ‘New Deal’ Llafur Tony Blair, yn cyflwyno lefel uwch o feirniadaeth ar fywyd cyfoes Cymru.

Nid perfformiwr yn unig oedd Cravos yn ystod y cyfnod hwn, ac erbyn 2001, roedd yn ffigwr canolog mewn sîn danddaearol fach ond bywiog a oedd yn seiliedig ar gerddoriaeth hip-hop, pync, ac avant-garde. Roedd ei ffansîn ‘Brechdan Tywod’, ei label Fitamin Un, a’i orsaf radio rhyngrwyd Radio Amgen, i gyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i artistiaid gydag agendâu tebyg yng Nghymru a thu hwnt, gan sefydlu presenoldeb yr iaith Gymraeg mewn maes cerddorol newydd a heriol. Arbrofodd Cravos yn y maes hwn dan yr enw Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front, yn creu cerddoriaeth avant-garde mewn arddull tebyg i’r artist sŵn Siapaneaidd Merzbow; rhyddhawyd un albwm, Croeso I’r Ganolfan Ymwelwyr, yn 2000 i adolygiadau cymysg.

Rhyddhaodd Tystion yr EP Y Meistri yn 2001, ac un sengl olaf, ‘M.O.M.Y.F.G.’, cyn chwalu ar ôl Eisteddfod Genedlaethol 2002. Yn 2004 recordiodd Cravos yr albwm Miwsig I’ch Traed a Miwsig I’ch Meddwl gyda Curig Huws dan yr enw Lo-Cut a Sleifar, ac fe dderbyniodd yr albwm adolygiadau positif. Erbyn hyn roedd yna garfan fach o rapwyr a hip-hopwyr yn perfformio yn Gymraeg, gan gynnwys Pep Le Pew, Cofi Bach a Tew Shady, ac MC Saizmundo; disgrifiwyd hip-hop fel ‘y canu protest newydd’ gan y cynhyrchydd (ac aelod Pep Le Pew) Dyl Mei mewn erthygl yn Y Cymro yn 2005. Fodd bynnag, erbyn diwedd y ddegawd, roedd y rhan fwyaf o’r labeli, ffansîns, ac artistiaid a ffurfiodd y sîn danddaearol wedi dod i ben.

Prosiectau[golygu | golygu cod y dudalen]

Fitamin Un[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1996, sefydlodd Cravos ei label recordiau ei hun, Recordiau Fitamin Un. Wedi diflasu gyda'r sîn yng Nghymru, fe'i gychwynodd i gyhoeddi rhai o brosiectau ei hun (fel Tystion) a deunydd tanddaearol arall. Rhyddhawyd cynnyrch gan nifer o fandiau arall ar y label yn cynnwys Llwybr Llaethog, Pep Le Pew, Trawsfynydd Lo-Fi (aka Liberation Front), a Continuous Sound Labordy Swn Cont. Mae deunydd Fitamin Un wedi'u harchifo gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[3]

Radio Amgen[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Radio Amgen yn brosiect gan Cravos yn darparu nifer o sioeau cerddoriaeth arlein. Mae'r traciau yn gymysgedd eclectig o artistiaid yn y Gymraeg a'r Saesneg. Roedd yr orsaf hefyd yn cynnig cyfle i llawer o djs amatur a chynhyrchwyr cerddoriaeth y cyfle i ddangos eu creadigaethau.

Tystion (1991-2002)[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynodd Tystion yn 1991. Yn 16 oed cafodd Cravos ei ddylanwadu gan synau Public Enemy a'r Dead Kennedys, a roedd yn gweithio yn ei ystafell wely yng Nghaerfyrddin gan ddefnyddio deciau dau dâp a chymysgydd. Roedd yn awyddus i ymateb i gyflwr cerddoriaeth prif ffrwd Cymru ar y pryd. Erbyn 1995, fe ymunodd Gruff Meredith a'r grŵp.

Lo-Cut a Sleifar[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweithiodd Cravos ar y prosiect hwn gyda Lo-Cut (Curig Huws), aelod/cynhyrchydd Murry the Hump.  Cyhoeddwyd eu albwm yn 2004 ar Boobytrap Records. Roeddent wedi eu lleoli yng Nghaerdydd a sefydlwyd eu partneriaeth ym Mharis.


Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Albwm[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Albwm Label Gwybodaeth ychwanegol
2004 Miwsig I'ch Traed A Miwsig I'ch Meddwl Boobytrap Records

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Rap iaith Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]