Nid yw Cymru ar Werth
- Gweler hefyd: Argyfwng tai Cymru

Mudiad yn erbyn ail dai yng Nghymru yw Nid yw Cymru ar Werth.[1]
Hanes[golygu | golygu cod]
Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith[golygu | golygu cod]
Aberystwyth[golygu | golygu cod]
Ym mis Chwefror 2022 fe aeth dros 1,000 o bobl i rali yn Aberystwyth. Dywedodd Osian Jones, "Mae wedi dod yn amlwg yn ddiweddar fod pwysau pobl Cymru am gyfiawnder yn y farchnad dai ac am gamau i sicrhau'r hawl i fyw yn lleol wedi cael effaith sylweddol ar y llywodraeth.
"Maen nhw wedi cyhoeddi camau i gyflwyno rheolau cynllunio newydd a threthi newydd posibl i atal colli gormod o'n stoc tai i'r farchnad ail
gartrefi ac Airbnb.
"Ar ddechrau blwyddyn o ddathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith mae'n gyfle i ni atgoffa'n hunain bod ymgyrchu'n talu ffordd heddiw gymaint ag erioed felly mae angen dal i bwyso.
"A daliwn i bwyso dros ymrwymiad i basio Deddf Eiddo gyflawn i sicrhau cyfiawnder o'r diwedd a pharhad i'n cymunedau trwy fod ystyried tai yn asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi, nid fel asedau masnachol i wneud elw."[2]
Ynys Môn[golygu | golygu cod]
Ym mis Tachwedd 2022, cafodd nifer o dai haf yn Rhosneigr ar Ynys Môn eu targedu gan aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith gyda phosteri yn dweud "Nid yw Cymru ar Werth". Cafodd pedair gwaith yn fwy o ail gartrefi eu gwerthu yng Nghymru o gymharu â chyfartaledd y DU dros y 12 mis diwethaf, yn ôl Nation Cymru.[3]
Caernarfon[golygu | golygu cod]
Fe aeth 1500 o bobl i rali Nid yw Cymru ar Werth yng Nghaernarfon ym mis Mai 2023. Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynnu deddfwriaeth sy'n cynnwys:
- Hawl i gartref yn lleol
- Cynlluniau ar gyfer anghenion lleol
- Grymuso cymunedau lleol
- Yn blaenoriaethu pobl leol
- Yn rheoli'r sector rhentu
- Adeiladu cartrefi cynaliadwy
- Yn buddsoddi mewn cymunedau[4]
Dywedodd Ffred Ffransis, “Mae’r system bresennol hon yn gyrru pobl ifanc yn arbennig allan o’u cymunedau wrth i dai gael eu bachu – yn aml ar-lein o fewn oriau – gan bobl sy’n symud i mewn o ardaloedd incwm uwch y tu allan i Gymru.
“Mae’r broses hon yn dinistrio cymunedau Cymraeg eu hiaith, ond mae hefyd yn fater ehangach ledled Cymru wrth i bobl leol gael eu gorfodi allan gan ddatblygiadau masnachol i gymudwyr, pobl yn ymddeol, a rhenti anfforddiadwy.
“Mae Cymdeithas yn galw am Ddeddf Eiddo, a fyddai’n rheoleiddio’r farchnad agored ac yn trin tai fel asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi i bobl yn eu cymunedau yn hytrach na’r system marchnad agored sy’n ystyried tai fel asedau masnachol er elw.”[5]
Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r Llywodraeth wedi addo Papur Gwyn Deddf Eiddo cyn diwedd y tymor Seneddol hwn, ond nid oes sôn amdano na'r cynnwys eto. Er bod y Llywodraeth wedi cyflwyno rhai mesurau cyfyngedig i leihau effaith ail gartrefi a llety gwyliau nid ydynt wedi mynd at wraidd y broblem - ac nid yw'n ymddangos eu bod yn ei thrafod.
"Rydym wedi bod yn galw am Ddeddf Eiddo ers diwedd y 70au, mae'r angen yn fwy nag erioed, ac mae nawr yn gyfle i ddatrys y broblem, unwaith ac am byth - drwy Ddeddf Eiddo a fydd yn rheoleiddio'r farchnad."[6]
Gwenno Saunders[golygu | golygu cod]
Ar lwyfan Gŵyl Glastonbury yn mis Mehefin 2023, dywedodd Gwenno Saunders, yn Saesneg "Yng Nghymru mae gennym ddywediad 'Nid yw Cymru ar Werth'" ac mae ganddi gân o'r enw N.Y.C.A.W.[1]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Ahmed, Reem (2023-06-25). "Gwenno appears on Glastonbury stage with huge 'Wales is not for sale' sign". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-28.
- ↑ "Rali yn Aberystwyth i dynnu sylw at yr argyfwng tai". BBC Cymru Fyw. 2022-02-19. Cyrchwyd 2023-08-28.
- ↑ "'Wales is not for sale': Holiday homes plastered in posters by campaigners".
- ↑ "1,500 people mark coronation holiday at Wales Is Not For Sale rally". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2023-05-08. Cyrchwyd 2023-08-28.
- ↑ Morris, Steven (2023-05-08). "Second homes 'destroying' Welsh-speaking areas, say campaigners". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-08-28.
- ↑ Jones, Branwen (2023-05-08). "Hundreds attend rally highlighting housing 'crisis' in Wales". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-28.