Hanesyddiaeth yr Ail Ryfel Byd
Enghraifft o'r canlynol | hanesyddiaeth |
---|
Cafodd yr Ail Ryfel Byd (1939–1945) effaith sylweddol ar hanes y byd, ac ers ei derfyn mae hanesyddion a hefyd awduron, athronwyr, ac eraill wedi datblygu nifer o ddehongliadau amrywiol o agweddau'r rhyfel, gan greu hanesyddiaeth eang.
Achosion y rhyfel
[golygu | golygu cod]Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Cyrchoedd awyr
[golygu | golygu cod]Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Yr Holocost
[golygu | golygu cod]Ers i'r Holocost dod i'r amlwg, mae hanesyddion wedi dadlau dros sut daeth y gwersylloedd difa i fod. Yn gyffredinol bu un garfan, y bwriadwyr, yn honni taw amcan Adolf Hitler o'r cychwyn oedd i ddifa'r Iddewon yn systematig, tra bo carfan y strwythurwyr yn dadlau nad hyn oedd y bwriad ond daeth yr Holocost o ganlyniad i amgylchiadau yn y rhyfel a gwnaed nifer o'r penderfyniadau gan swyddogion islaw yn y Blaid Natsïaidd. Mae eraill yn credu mewn synthesis o'r ddau safbwynt hwn.
Ceir hefyd dadleuon dros i ba raddau roedd poblogaeth gyffredin yr Almaen yn ymwybodol o'r gwersylloedd crynhoi, ac i ba raddau roedd y Cynghreiriaid yn ymwybodol o'r Holocost yn ystod y rhyfel ac oes oedden pam na wnaethon nhw bomio'r gwersylloedd difa neu'r rheilffyrdd oedd yn arwain atynt.
Mae rhai pobl hefyd yn gwadu'r Holocost i raddau neu yn hollol, ond ystyrid hyn yn ffug-hanes.
Y bomiau atomig
[golygu | golygu cod]Yn Awst 1945, gollyngodd yr Unol Daleithiau fomiau atomig ar ddinasoedd Hiroshima a Nagasaki yn Japan er mwyn ceisio dod â'r rhyfel yn y Môr Tawel i ben. Dadleir dros foesoldeb defnyddio'r bomiau atomig, gan fu farw 150,000–246,000 o bobl.