Hiroshima

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hiroshima
Hiroshima Peace Memorial.jpg
Baner Hiroshima.png
Motto:
Hiroshima in Hiroshima Prefecture Ja.svg
o fewn Talaith Hiroshima, Japan
Daearyddiaeth
Statws: Dinas (1589)
Pencadlys: Hiroshima
Arwynebedd: 905.01 km²
Cód ONS:
ISO 3166-2:
Demograffeg
Poblogaeth (2007) 1,159,391
1,281.1/ km²
Gwleidyddiaeth
[1]
Gweithgor:
AS:

Prif ddinas Talaith Hiroshima yn Japan yw Hiroshima, a dinas fwyaf rhanbarth Chūgoku yng ngorllewin Honshū, ynys fwyaf Japan. Hiroshima oedd y ddinas gyntaf erioed i brofi arfau niwclear pan ollyngwyd bom arni gan yr Unol Daleithiau ar y 6ed o Awst, 1945 yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd Hiroshima statws bwrdeisdrefol ar y 1af o Ebrill, 1889. Maer presennol y ddinas yw Tadatoshi Akiba a ddechreuodd ar ei swydd ar y 23ain o Chwefror, 1999.

Hanes[golygu]

Sefydlwyd Hiroshima ar arfordir mewnforol y Mor Seto ym 1589 gan Mori Terumoto a wnaeth y ddinas yn brifddinas wedi iddo adael Castell Koriyama yn Nhalaith Province. Adeiladwyd Castell Hiroshima'n gyflym iawn, a symudodd Terumoto yno ym 1593. Collodd Terumoto Frwydr Sekigahara. Amddifadodd buddugwr y frwydr honno, Tokugawa Ieyasu, Mori Terumoto o'i eiddo gan gynnwys Hiroshima, gan roi talaith Aki i Masanori Fukushima, arglwydd ffiwdal a oedd wedi cefnogi Tokugawa. Trosglwyddwyd y castell i Asano Nagaakira ym 1619, ac apwyntiwyd Asano yn arglwydd yr ardal hon. O dan reolaeth Asano, ffynnodd, datblygodd ac ehangodd y ddinas, a phrin oedd yr gwrthdaro a'r anghydweld milwrol. Parhaodd llinach Asano i reoli tan yr Adfywiad Meiji yn y 19eg ganrif.

Cyfnod modern[golygu]

Bu Hiroshima'n brifddinas ardal Hiroshima yn ystod y cyfnod Edo. Ar ôl i'r han gael ei ddiddymu ym 1871, daeth y ddinas yn brifddinas Talaith Hiroshima. Daeth Hiroshima'n ardal ddinesig mawr yn ystod y cyfnod Meiji wrth i economi Japan symud o'r diwydiant amaethyddol i'r diwydiannau trymach. Adeiladwyd Harbwr Ujina yn ystod y 1880au, a alluogodd Hiroshima i fod yn borthladd pwysig.

Ymestynwyd y Rheilffordd Sanyo i Hiroshima ym 1894, ac adeiladwyd rheilffordd o'r prif orsaf i'r harbwr er mwyn symud offer milwrol yn ystod y Rhyfel Sino-Japan Cyntaf. Sefydlwyd ffatrioedd diwydiannol newydd, gan gynnwys melinau gwlan yn Hiroshima ar ddiwedd y 1880au. Gwelwyd diwydiannu pellach yn Hiroshima o ganlyniad i'r Rhyfel Rwsia-Japan ym 1904, lle'r oedd angen datblygu a chynhyrchu offer milwrol. Adeiladwyd Neuadd Arddangos Masnach Talaith Hiroshima ym 1915 fel canolfan i fasnachu ac arddangos nwyddau newydd. Yn ddiweddarach, newidiodd ei enw i Neuadd Arddangos Cynnyrch Talaith Hiroshima, ac yn ddiweddarach eto i Neuadd Hyrwyddo Diwydiannau Talaith Hiroshima.

Yr Ail Ryfel Byd a'r bom atomig[golygu]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lleolwyd pencadlys yr Ail Fyddin a Byddin Rhanbarthol Chugoku yn Hiroshima, tra bod Pencadlys Morol y Fyddin wedi'i leoli ym mhorthladd Ujina. Roedd gan y ddinas storfeydd mawrion o adnoddau milwrol hefyd, ac roedd yn ganolfan allweddol ar gyfer allforio.

Criw o fyfyrwyr Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe yn Amgueddfa Heddwch Hiroshima yn 2005 gyda gwraig a oroesodd y bom atomig

Achosodd bomio Tokyo a dinasoedd eraill yn Japan ddinistr difrifol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a lladdwyd dros 200,000 gyda'r mwyafrif llethol ohonynyt yn drigolion. Er enghraifft, dinistrwyd yr ardal ddinesig Toyama, lle trigai 128,000 bron yn llwyr, a lladdwyd tua 90,000 o bobl gan fomiau yn Tokyo.

Ar ddydd Llun, 6 Awst, 1945 am 8:15 y.b. gollyngwyd yr arf niwclear "Little Boy" ar Hiroshima gan griw y bomiwr B-29 Americanaidd, yr Enola Gay, gan ladd 80,000 o bobl yn uniongyrchol. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd yr anafiadau a'r ymbelydredd wedi achosi i'r nifer o farwolaethau gynyddu i 90,000-140,000. Dinistriwyd tua 69% o adeiladau'r ddinas yn gyfangwbl, a 6.6% wedi'u difrodi'n ddifrifol.

Cyfyngwyd gwaith ymchwil am effaith yr ymosodiad a sensoriwyd gwybodaeth tan arwyddwyd Cytundeb Heddwch San Francisco ym 1951, pan ddychwelwyd rheolaeth o'r ardal yn ôl i Japan.

Ysgrifennwyd llawer am Hiroshima mewn adroddiadau newyddion, nofelau a diwylliant poblogaidd yn ystod y blynyddoedd wedi'i bomio.

Demograffeg[golygu]

Poblogaeth y ddinas oedd 1,159,391 (2007) er fod gan ardal fetropolitanaidd y ddinas boblogaeth amcangyfrifol o 2,043,788 yn 2000. Arwynebedd y ddinas yw 905.08 km², gyda dwysedd poblogaeth o 1275.4 person i bob km².

Tua 1910, poblogaeth y ddinas oedd 143,000. Cyn yr Ail Ryfel Byd, roedd poblogaeth Hiroshima wedi tyfu i 360,000 cyn cyrraedd uchafswm o 419,182 ym 1942. O ganlyniad i ollwng y bom atomig ym 1945, lleihaodd y boblogaeth i 137,197. Erbyn 1955, roedd poblogaeth y ddinas wedi dychwelyd i'r un lefel ag yr oedd cyn y rhyfel.

Wardiau[golygu]

Mae 8 wardiau (ku) yn Hiroshima:

Ku Poblogaeth Arwynebedd (km²) Dwysedd poblogaeth
(per km²)
Aki-ku 78,176 94.01 832
Asakita-ku 156,368 353.35 443
Asaminami-ku 220,351 117.19 1,880
Higashi-ku 122,045 39.38 3,099
Minami-ku 138,138 26.09 5,295
Naka-ku 125,208 15.34 8,162
Nishi-ku 184,881 35.67 5,183
Saeki-ku 135,789 223.98 606
Poblogaeth ar ôl 31 Hydref 2006