Dinasoedd dynodedig Japan

Dinas dynodedig trwy ordinhâd llywodraeth (Japaneg: 政令指定都市, Seirei shitei toshi), neu Dinas Dynodedig (Japaneg: 指定都市, Shitei toshi) neu Dinas Ordinhâd Llywodraeth (Japaneg: 政令市, Seirei shi) yw'r enw a roddir ar ddinas yn Japan sydd â phoblogaeth o dros 500,000 ac sydd wedi ei dynodi gan orchymyn Cabinet Japan o dan Erthygl 252, Adran 19 o dan y Ddeddf Ymreolaeth Lleol.
Swyddogaeth a gweinyddiaeth
[golygu | golygu cod]Dirprwyir nifer o swyddogaethau tebyg i'r rhai a weinyddir gan daleithiau Japan i ddinasoedd dynodedig; mewn meysydd megis addysg, gofal cymdeithasol, glanweithdra, trwyddedu busnesau a chynllunio trefol. Fel arfer, datganolir swyddogaethau llai i lywodraeth y ddinas tra caiff penderfyniadau mwy pwysig eu gwneud gan lywodraeth y dalaith. Er enghraifft, gellir trwyddedu clinigau neu fasnachwyr fferyllol gan lywodraeth y ddinas, ond i gael trwydded ar gyfer fferyllfa neu ysbyty rhaid gwneud cais trwy lywodraeth y dalaith.
Rhaid i ddinasoedd dynodedig is-rannu eu hunain i mewn i wardiau (Japaneg: 区, ku), pob un a'i swyddfa weinyddol sy'n edrych ar ôl swyddogaethau megis cofrestru trigolion a chasglu treth.
Nid oes un ddinas bellach sydd wedi ei dynodi'n ddinas ddynodedig wedi colli ei statws.
Rhestr o ddinasoedd dynodedig Japan
[golygu | golygu cod]| Enw | Japaneg | Dyddiad dynodiad | Rhanbarth | Talaith | # o wardiau |
|---|---|---|---|---|---|
| 千葉 | 1992-04-01 | Kantō | Chiba | 6 | |
| 福岡 | 1972-04-01 | Kyūshū | Fukuoka | 7 | |
| 浜松 | 2007-04-01 | Chūbu | Shizuoka | 7 | |
| 広島 | 1980-04-01 | Chūgoku | Hiroshima | 8 | |
| 川崎 | 1972-04-01 | Kantō | Kanagawa | 7 | |
| Kitakyūshū | 北九州 | 1963-04-01 | Kyūshū | Fukuoka | 7 |
| 神戸 | 1956-09-01 | Kansai | Hyōgo | 9 | |
| 京都 | 1956-09-01 | Kansai | Kyoto | 11 | |
| 名古屋 | 1956-09-01 | Chūbu | Aichi | 16 | |
| 新潟 | 2007-04-01 | Chūbu | Niigata | 8 | |
| 岡山 | 2009-04-01 | Chūgoku | Okayama | 4 | |
| 大阪 | 1956-09-01 | Kansai | Osaka | 24 | |
| 相模原 | 2010-04-01 | Kantō | Kanagawa | 3 | |
| さいたま | 2003-04-01 | Kantō | Saitama | 10 | |
| 堺 | 2006-04-01 | Kansai | Osaka | 7 | |
| 札幌 | 1972-04-01 | Hokkaidō | Hokkaidō | 10 | |
| 仙台 | 1989-04-01 | Tōhoku | Miyagi | 5 | |
| Shizuoka | 静岡 | 2005-04-01 | Chūbu | Shizuoka | 3 |
| 横浜 | 1956-09-01 | Kantō | Kanagawa | 18 |
Gofynion
[golygu | golygu cod]- Poblogaeth o 500,000 neu fwy
Er mwyn cyflwyno cais swyddogol rhaid cael caniatâd llywodraethau y ddinas a'r dalaith.