Kyūshū
| Math | ynys |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | ennead |
| Poblogaeth | 13,061,879 |
| Cylchfa amser | UTC+09:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Japanese archipelago, four main islands of Japan |
| Lleoliad | Kyūshū region |
| Sir | Japan |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 36,782.11 ±0.01 km² |
| Uwch y môr | 1,788 metr |
| Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, Setō Naikai, Môr Dwyrain Tsieina, Môr Japan |
| Cyfesurynnau | 33°N 131°E |
![]() | |

Kyūshū (九州, Kyūshū) yw'r fwyaf deheuol o bedair ynys fawr Japan. Gydag arwynebedd o 35,640 km², hi yw trydydd ynys Japan o ran maint. Ystyrir yr ynys yn grud y diwylliant Japaneaidd, ac mae nifer o hen enwau arni, yn cynnwys Kyukoku (九国), Chinzei (鎮西), a Tsukushi-shima (筑紫島). Mae'r boblogaeth yn 13,231,995. Un nodwedd ddiddorol yw fod nifer o drigolion Kyūshū ymysg pobl hynaf y byd, yn cynnwys Shigechiyo Izumi, Kamato Hongō a Yukichi Chuganji.
Mae saith talaith ar ynys Kyūshū: Fukuoka, Nagasaki, Saga, Kumamoto, Ōita, Miyazaki a Kagoshima. Y ddinas fwyaf yw Fukuoka, sydd hefyd yn borthladd. Ynysg dinasoedd eraill yr ynys mae Kitakyushu, Nagasaki, Kumamoto a Kagoshima. Mae'n ynys fynyddig, gyda'r copa uchaf, Kujū-san, yn cyrraedd 1,788 medr.
