Yokohama
| Math | dinasoedd dynodedig Japan, prefectural capital of Japan, dinas Japan, dinas â phorthladd, satellite city, tref noswylio |
|---|---|
| Prifddinas | Naka-ku |
| Poblogaeth | 3,757,630 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Yokohama City Song |
| Pennaeth llywodraeth | Takeharu Yamanaka |
| Cylchfa amser | UTC+09:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Yokohama metropolitan area |
| Sir | Kanagawa |
| Gwlad | Japan |
| Arwynebedd | 437.71 km² |
| Uwch y môr | 24 ±1 metr |
| Gerllaw | Bae Tokyo, Port of Yokohama, Afon Tsurumi, Toriyama-gawa |
| Yn ffinio gyda | Kawasaki, Fujisawa-shi, Yamato, Yokosuka, Kamakura, Zushi, Machida |
| Cyfesurynnau | 35.4333°N 139.65°E |
| Cod post | 221-0001–221-0866 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Yokohama City Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Yokohama |
| Pennaeth y Llywodraeth | Takeharu Yamanaka |
![]() | |


Dinas yn Japan yw Yokohama (Japaneg 横浜市 Yokohama-shi ), prifddinas talaith Kanagawa yn rhanbarth Kantō ar ynys Honshu, ac 2il ddinas mwyaf Japan o ran poblogaeth. Ynghyd â bod yn un o ddinas dynodedig, dan system sydd unigryw i Japan mae Yokohama hefyd yn "ddinas ymgorfforedig" sy'n rhan o fetropolis Tokyo heddiw; felly ar yr un pryd â bod yn ddinas, mae Yokohama yn cael ei chyfrif fel maestref fwyaf y byd, gyda phoblogaeth o 3.6 miliwn. Mae'n ganolfan fasnach bwysig yn Ardal Tokyo Fwyaf.
O ddiwedd y 19g ymlaen datblygodd yn gyflym i fod yn brif borthladd Siapan ar ddiwedd y cyfnod ynysig yn hanes Japan a elwir cyfnod Edo. Erbyn heddiw Yokohama yw un o borthladdoedd pwysicaf Japan, ynghyd â phortladdoedd Kobe, Osaka, Nagoya, Fukuoka, Tokyo ei hun a Chiba.
Daeth Yokohama yn ddinas dynodedig ar 1 Medi 1956.
Wardiau
[golygu | golygu cod]

Mae gan Yokohama 18 ward ddinesig (ku):
|
|
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Doli
- Canolfan Sidan
- Stadiwm Yokohama
- Tŵr Landmark
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Takeshi Ueda (g. 1968), canwr
- Tadanobu Asano (g. 1973), actor
