Honolulu
| Math | tref ddinesig, dinas fawr, consolidated city-county |
|---|---|
| Poblogaeth | 350,964 |
| Pennaeth llywodraeth | Rick Blangiardi |
| Cylchfa amser | Hawaii–Aleutian Time Zone |
| Gefeilldref/i | Bruyères, Caracas, Seoul, Sintra, Uwajima, Chengdu, Yangzhou, Baguio, Baku, Cali, Candon, Cebu City, Chigasaki, Ardal Fengxian, Funchal, Haikou, Hiroshima, Huế, Incheon, Kaohsiung, Laoag, Majuro, Mandaluyong, Manila, Mombasa, Mumbai, Nagaoka-shi, Naha, Qinhuangdao, Rabat, San Juan, Vigan, Zhangzhou, Zhongshan, Puerto Princesa, Warringah Council, Tokyo, New Orleans, Luganville, Fuzhou |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Honolulu County |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 177.2 km² |
| Uwch y môr | 12 metr |
| Cyfesurynnau | 21.3047°N 157.8572°W |
| Cod post | 96801, 96802, 96803, 96804, 96805, 96806, 96807, 96808, 96809, 96810, 96811, 96812, 96813, 96814, 96815, 96816, 96817, 96818, 96819, 96820, 96821, 96822, 96823, 96824, 96825, 96826, 96828, 96830, 96836, 96837, 96838, 96839, 96840, 96841, 96843, 96844, 96846, 96847, 96848, 96849, 96850 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Honolulu |
| Pennaeth y Llywodraeth | Rick Blangiardi |
![]() | |
Prifddinas ac ardal mwyaf poblog Hawaii yw Honolulu. Er fod Honolulu yn cyfeirio at ardal dinesig ar arfordir de-ddwyreiniol yr ynys, mae'r ddinas a'r sir yn cydgyfnerthedig, acadnabyddir fel Dinas a Sir Honolulu, dynodir y ddinas a'r sir fel ynys Oahu gyfan. Dinas a Sir Honolulu yw unig ddinas corfforedig Hawaii, gan fod pob math arall o gyngor yn cael ei weinyddu ar lefel sirol. Yn ardal dynodedig Honolulu y cyfrifiad, roedd cyfanswm y boblogaeth yn 371,657 yn ystod Cyfrifiad yr Unol Daleithiau yn 2000, tra bod poblogaeth y Ddinas a'r Sir yn 909,863. Mae Honolulu yn golygu "bae wedi ei gysgodi" neu "lloches" yn yr Hawaïeg (iaith Hawaii).
Hanes
[golygu | golygu cod]Ni wyddwn pryd anheddwyd Honolulu am y tro cyntaf gan yr ymfudwyr gwreiddiol yr ynysfor, a ddaeth o Polynesia. Mae hanesion llafar ac arteffactau yn dangos y bu anheddiad lle safai Honolulu heddiw, yn yr 12g. Ond, wedi i Kamehameha I orchfygu Oahu ym Mrwydr Nuuanu yn Nuuanu Pali, symudodd ei lys brenhinol o Ynys Hawaii i Waikīkī yn 1804. Ail-leolwyd ei lys yn ddiweddarach, yn 1809, i'r ardal a adnabyddir heddiw fel Honolulu.
Yr estronwr cyntaf i hwylio yno oedd Capten William Brown o Loegr, yn 1794, gan lanio yn yr ardal sydd heddiw yn Borthladd Honolulu. Roedd nifer o longau eraill i'w ddilyn, gan droi'r borth yn ganolbwynt ar gyfer llongau masnach a oedd yn teithio rhwng Gogledd America ac Asia.
Yn 1845, symudodd Kamehameha III prifddinas parhaol Ternas Hawaii o Lahaina ar Maui, i Honolulu. Fe drawsnewidodd ef, a'r brenhinoedd a'i ddilynodd, Honolulu i beth a welwn heddiw, yn brifddinas cyfoes, gan adeiladu strwythurau megis Prifegwlys Sant Andrew, Palas Iolani, ac Aliiolani Hale. Yr un pryd, daeth Honolulu yn ganolfan masnach yr ynysoedd, gyda disgynyddion y cenhadon Americanaidd yn sefydlu busnesau pwysig yng nghanol tref Honolulu.
Er hanes terfysglyd yr 19g hwyr a'r 20g cynnar, a welodd cwymp brenhiniaeth Hawaii, a chyfeddiant Hawaii gan yr Unol Daleithiau, ac ymosodiad ar Pearl Harbor gan Japan, mae Honolulu wedi parhau fel prifddinas, dinas mwyaf, a phrif faes awyr a phorthladd Ynysoedd Hawaii.
Wedi i Hawaii gael ei droi'n dalaith, daeth ffyniant economaidd a thwristiaeth, gan achosi twf econmaidd i Honolulu a Hawaii. Daeth taith awyr cyfoes filoedd, ac yn y diwedd miloedd (y flyddyn), o ymwelwyr i'r ynysoedd. Erbyn heddiw, mae Honolulu yn ddinas cyfoes gyda nifer o adeiladau sawl llawr.
