San Juan (Puerto Rico)

Oddi ar Wicipedia
San Juan
Mathmunicipality of Puerto Rico, dinas fawr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlIoan Fedyddiwr Edit this on Wikidata
Poblogaeth342,259 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1521 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMiguel Romero Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−04:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantIoan Fedyddiwr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolNorthern Coast Edit this on Wikidata
SirPuerto Rico Edit this on Wikidata
GwladBaner Puerto Rico Puerto Rico
Arwynebedd120.193947 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCarolina, Guaynabo, Aguas Buenas, Caguas, Trujillo Alto Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau18.4656°N 66.1181°W Edit this on Wikidata
Cod post00901–00975, 00901, 00902, 00906, 00907, 00908, 00909, 00910, 00911, 00912, 00913, 00914, 00915, 00916, 00917, 00918, 00919, 00920, 00921, 00922, 00923, 00924, 00925, 00926, 00927, 00928, 00929, 00930, 00931, 00933, 00935, 00936, 00937, 00939, 00940, 00955, 00975 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of San Juan, Puerto Rico Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMiguel Romero Edit this on Wikidata
Map
Golygfa o'r awyr ar San Juan
Erthygl am brifddinas Puerto Rico yw hon. Gweler hefyd San Juan (gwahaniaethu).

Prifddinas a dinas fwyaf Puerto Rico yw San Juan (talfyriad o'r enw Sbaeneg, San Juan Bautista "Sant Ioan Fedyddiwr"). Yn ôl cyfrifiad 2000 roedd ganddi boblogaeth o 433,733, sy'n ei gwneud y ddinas 42ail fwyaf dan reolaeth yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd San Juan gan wladychwyr Sbaenaidd yn 1521, a chafodd ei galw yn Ciudad de Puerto Rico ("Dinas Puerto Rico"). Yn ogystal â bod y ddinas hynaf ym Mhuerto Rico, hi yw'r ddinas hynaf yn yr Unol Daleithiau i gael ei sefydlu gan Ewropeiaid a'r ail hynaf felly yn yr Amerig gyfan, ar ôl Santo Domingo, Gweriniaeth Dominica. Ceir sawl adeilad hanesyddol yn San Juan, e.e. yr hen gaerau arfordirol, Fort San Felipe del Morro a Fort San Cristobál.

Heddiw, mae San Juan yn gwasanaethu fel un o borthladdoedd mwyaf Puerto Rico a hi hefyd yw canolfan gwaith cynhyrchu, gwasanaethau ariannol, diwylliant a thwristiaeth y wlad. Mae tua 2 filiwn o bobl yn byw yn yr ardal fetropolitaidd sy'n cynnwys San Juan ei hun a maesdrefi dinesig Bayamón, Guaynabo, Cataño, Canóvanas, Caguas, Toa Alta, Toa Baja, Carolina a Trujillo Alto; felly mae tua hanner poblogaeth Puerto Rico yn byw ac yn gweithio yn yr ardal hon erbyn heddiw.