Matthew Parker

Oddi ar Wicipedia
Matthew Parker
Portread o'r Archesgob Matthew Parker gan arlunydd anhysbys.
Ganwyd6 Awst 1504 Edit this on Wikidata
Norwich Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mai 1575, 1575 Edit this on Wikidata
Lambeth Palace Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddArchesgob Caergaint Edit this on Wikidata
PlantJohn Parker Edit this on Wikidata

Clerigwr Anglicanaidd o Sais oedd Matthew Parker (6 Awst 150417 Mai 1575) a fu'n Archesgob Caergaint o 1559 i 1575 ac yn un o arweinwyr sefydlogi hunaniaeth unigryw Eglwys Loegr yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elisabeth.

Ganed ef yn Norwich, Norfolk, a chafodd ei addysg yn Neuadd y Santes Fair a Choleg Corpus Christi, Caergrawnt. Fe'i ordeiniwyd yn offeiriad yn yr Eglwys Gatholig ym 1527, er yr oedd eisoes yn cydymdeimlo â syniadaeth Luther. Gwasanaethodd yn ddeon mewn coleg offeiriaid yn Suffolk o 1535 i 1547. Wedi ei ethol yn feistr Coleg Corpus Christi ym 1544, aeth ati i ddiwygio'r llyfrgell (byddai'n cymynroddi ei lawysgrifau cain i'r honno). Fe'i penodwyd i sawl swydd arall yn y cyfnod hwn, gan gynnwys caplan i'r Brenin Harri VIII ym 1538 ac is-ganghellor Prifysgol Caergrawnt ym 1545 a 1549. Yn sgil esgyniad Mari I i'r orsedd, gorfodwyd iddo ymddiswyddo o'r brifysgol ym 1553 a ffoes i Frankfurt-am-Main.

Dychwelodd i Loegr wedi i Elisabeth olynu Mari, a derbyniodd, yn anfodlon, Archesgobaeth Caergaint. Fe'i cysegrwyd ym Mhalas Lambeth ar 19 Rhagfyr 1559. Byddai'n un o'r garfan Anglicanaidd, a geisiodd canfod ffordd ganolig rhwng Pabyddiaeth a Phiwritaniaeth. Dan ei arweiniad, cyhoeddwyd y 39 Erthygl, gan osod sail o ran athrawiaeth i'r eglwys. Ei brif gyfraniad at astudiaethau diwinyddol y cyfnod oedd Beibl yr Esgob (1563–8); Parker ei hun a gyfieithodd Lyfr Genesis, yr Efengyl yn ôl Mathew, a rhai o epistolau Paul.[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 749.
  2. (Saesneg) Matthew Parker. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Tachwedd 2022.