Tonsur

Oddi ar Wicipedia

Yr arfer o eillio corun y pen, neu dorri rhywfaint o'r gwallt, er nod gostyngeiddrwydd neu ymroddiad crefyddol yw tonsur[1] neu gorunfoeliad.[2] Fel arfer câi'r corun ei eillio mewn defod neu seremoni dderbyn, i nodi bod yr unigolyn yn dechrau ar gyfnod o ddatblygiad crefyddol neu'n cael ei dderbyn i urdd grefyddol.

Cristnogaeth[golygu | golygu cod]

Darluniad o Sant Bartlemi gan Carlo Crivelli, sy'n dangos ei donsur (1473).

Bôn y gair tonsur yw tōnsūra, Lladin am dorri neu gneifio. Cafodd ei arfer i dderbyn clerigwyr yn yr Eglwys Babyddol o'r Oesoedd Canol Cynnar hyd at ei ddiddymu gan y Pab Pawl VI yn 1973. Yn yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, defnyddir y tonsur yn rhan o ordeiniad y llëwr.

Tair ffurf ar y tonsur sydd i'w cael yn yr eglwysi Cristnogol: y tonsur Rhufeinig, neu donsur Sant Pedr; y tonsur Groegaidd, y tonsur Dwyreiniol, neu donsur Sant Pawl; a'r tonsur Celtaidd, neu donsur Sant Ioan. Mae'r tonsur Rhufeinig naill ai'n eillio'r pen i gyd neu eillio'r corun gan adael rhimyn o wallt i symboleiddio'r goron ddrain. Yn ôl arfer y tonsur Groegaidd, câi'r pen i gyd ei eillio, ond bellach mae eglwysi'r dwyrain yn aml yn torri'r gwallt yn fyr. Ystyr tonsur Celtaidd, a arferai gan yr Eglwys Geltaidd, yw eillio'r pen o glust i glust, er nad yw ei union siâp yn glir o ffynonellau'r cyfnod.[3] Enw dirmygus ar y tonsur Celtaidd yw tonsur Simon y dewin.

Bwdhaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r Bwdhydd yn derbyn tonsur pan fyddai'n cael ei dderbyn yn samanera (nofydd) ac eto yn bhikkhu (mynach).

Hindŵaeth[golygu | golygu cod]

Bachgen â'i ben wedi eillio gan adael tusw ar y corun, a chyda'r swastica wedi peintio ar y moelni.

Byddai bachgen o Hindŵ yn derbyn ei donsur cyntaf yn 2 oed, weithiau gan adael tusw o wallt ar gorun y pen. Derbynai'r tonsur yn draddodiadol gan Hindwiaid cyffredin i nodi defodau newid byd, a chan y rhai sy'n cael eu derbyn i urddau'r asgetigion.

Jainiaeth[golygu | golygu cod]

Traddodiad gan fynachod Jainaidd yw i dynnu blew'r pen fesul un.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  tonsur. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Awst 2018.
  2.  corunfoeliad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Awst 2018.
  3. McCarthy, Daniel (2003). "On the Shape of the Insular Tonsure". Celtica 24: 140–167. http://www.celt.dias.ie/publications/celtica/c24/c24-140-167.pdf. Adalwyd 20 Awst 2018.