Inis Mór
| Math | ynys |
|---|---|
| Prifddinas | Cill Rónáin |
| Poblogaeth | 845 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Arann |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 31 km² |
| Uwch y môr | 123 metr |
| Gerllaw | Bae Galway |
| Cyfesurynnau | 53.1236°N 9.7275°W |
| Hyd | 14 cilometr |
![]() | |



Inis Mór neu Árainn Mhór (Saesneg: Inishmore, yw'r fwyaf o Ynysoedd Arann ym Mae Galway, Gweriniaeth Iwerddon. Mae gan yr ynys arwynebedd o 31 km² (12 mi²).
Yr hen enw at yr ynys oedd Árainn Mhór, wedi ei Seisnigo i Aranmore, ond gan fod hyn yn peri dryswch gydag Arranmore, Swydd Donegal, newidiwyd yr enw i Inis Mór ("Ynys Fawr").
Mae'r ynys yn un o gadarnleoedd yr iaith Wyddeleg a'i diwylliant, ac mae'n rhan o'r Gaeltacht. Ceir nifer o henebion nodedig yma, yn arbennig Dún Aengus, caer o Oes yr Haearn. Oherwydd hyn, mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Cysyllrir yr ynys a'r tir mawr gan fferi Aran Direct o Rossaveal ac mae cwmni Aer Arann yn hedfan yno.
Ar Inis Mór y ganed y llenor Liam O'Flaherty, ac mae ei blentyndod yno yn sail i lawer o'i waith. Y dref fwyaf yw Kilronan.
