Bae Galway
Jump to navigation
Jump to search
Mae Bae Galway yn fraich o'r Cefnfor Iwerydd ar arfordir gorllewinol Iwerddon. Yr unig ddinas ar ei lannau yw Galway. Mae'n gorwedd rhwng Conamara i'r gogledd, gweddill Swydd Galway i'r dwyrain, a rhan ogleddol Swydd Clare i'r de. Yng ngheg y bae ceir Ynysoedd Arainn. Mae'n un o faeau mwyaf prydferth Iwerddon.