Rhyfeddodau Prydain

Oddi ar Wicipedia

Rhyfeddodau Prydain yw'r enw ar sawl casgliad Cymreig o ddeunydd traddodiadol am ryfeddodau Ynys Prydain sy'n rhestru ffenonemau naturiol ym Mhrydain a'r traddodiadau amdanynt. Ceir y casgliad cynharaf fel atodiad i'r Historia Brittonum a briodolir i Nennius ond ceir sawl casgliad arall, diweddarach, o ddeunydd cyffelyb. Cofnoda'r testunau sawl ffenomen naturiol o natur hynod ac mae sawl un o'r rhain yn perthyn i hanes traddodiadol Prydain a byd llên gwerin.

Fersiynau[golygu | golygu cod]

Y casgliad cynharaf yw'r traethodyn Lladin dan yr enw Mirabilia Britanniae ('Rhyfeddodau Prydain') a geir fel atodiad i fersiynau Caergrawnt o'r Historia Brittonum, testun a luniwyd yn y 9g. Ceir testun Cymraeg Canol, sy ddim yn dilyn atodiad yr Historia Brittonum yn fanwl, fel atodiad i'r testun Enwau Ynys Prydain a geir yn Llyfr Coch Hergest (tua 1400). Ceir sawl fersiwn amrywiol arall mewn llawysgrifau Cymraeg diweddarach. Yn yr Oesoedd Canol Diweddar lluniwyd fersiynau Saesneg Canol gan Ranulf Higden a John o Trevisa.

Y Mirabilia Britanniae[golygu | golygu cod]

Dyma'r testun mwyaf adnabyddus. O'r ugain 'rhyfeddod' mae deg yn cael eu lleoli yn ne-ddwyrain Cymru gyda'r gweddill yn rhyfeddodau o rannau eraill o Gymru, Lloegr a'r Alban; tiriogaethau'r Brythoniaid. Rhestir Rhyfeddodau Ynys Môn ar wahân.

Mae rhai o'r rhyfeddodau hyn yn ymwneud â hanes traddodiadol Cymru a'r Brythoniaid, yn cynnwys dau gyfeiriad at Arthur fel Arthurus Miles (sef 'Arthur y milwr'). Mae'r deunydd Arthuraidd yn dangos fod yr awdur yn gyfarwydd â chwedl Culhwch ac Olwen. Addaswyd rhannau o'r testun gan Sieffre o Fynwy ar gyfer ei ffug hanes enwog Historia Regum Britanniae (Brut y Brenhinedd).

Fel math o atodiad i'r atodiad ceir rhestr fer o Ryfeddodau Iwerddon hefyd.

Fersiwn Llyfr Coch Hergest[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd y testun Enwau Ynys Prydain yn y llawysgrif hon, ceir restr amgen o Ryfeddodau Prydain. Yn lle 20 'rhyfeddod' yr Historia Brittonum mae'r testun yn cyfeirio at 54 rhyfeddod, ond dim ond 27 a ddisgrifir yn y testun ei hun. Mae'r awdur yn anhysbys.

Fersiynau Cymraeg eraill[golygu | golygu cod]

Ymhlith y fersiynau Cymraeg diweddarach ceir testun a ysgrifennwyd gan y bardd Gruffudd Hiraethog tua'r flwyddyn 1563. Fe'i ceir yn llawysgrif Peniarth 163 wrth yr enw Rhyfeddode yr Ynys. Mae'n cynnwys Côr y Cewri.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • J. O. Jones (cyf.), O Lygad y Ffynnon (Y Bala, 1899)
  • John Morris (gol. a chyf.), Nennius British History and The Welsh Annals (Llundain, 1980)
  • T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg 1488-1609, cyfrol 1 (Caerdydd, 1954): Testun 16.
  • Lewis Thorpe (cyf.), History of the Britons (Penguin Classics)
  • A. W. Wade-Evans (gol. a chyf.), Nennius's History of the Britons (1938)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhyddiaith Gymraeg 1488-1609, cyfrol 1 (Caerdydd, 1954), testun 16.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]