Arthen ap Seisyll
Arthen ap Seisyll | |
---|---|
Ganwyd | 8 g ![]() Ceredigion ![]() |
Bu farw | 807 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | brenin ![]() |
Tad | Seisyll ap Clydog ![]() |
Brenin Ceredigion oedd Arthen ap Seisyll (m. 807). Roedd yn fab i'r Brenin Seisyll ap Clydog.
Tua'r flwyddyn 730, ychwanegodd Seisyll Ystrad Tywi i deyrnas Ceredigion; Seisyllwg oedd enw'r deyrnas estynedig newydd.
Un cyfeiriad yn unig sydd ar glawr at ei fab Arthen. Cofnodir ei farwolaeth yn yr Annales Cambriae am 807, ynghyd â diffyg ar yr haul yn y flwyddyn honno:
- Arthgen rex Cereticiaun moritur. Eclipsis solis.
- 'Bu farw Arthen, brenin Ceredigion. Diffyg ar yr haul.'[1]
![]() |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ John Morris (gol.), Nennius British History and the Welsh Annals (Phillimore, 1980), tud. 88.