Is Coed

Oddi ar Wicipedia
Is Coed
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.08417°N 4.65792°W Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y cwmwd yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Arwystli Is Coed a Mechain Is Coed.

Cwmwd canoloesol yn ne Teyrnas Ceredigion oedd Is Coed. Gyda Mebwynion, Caerwedros a Gwynionydd, roedd yn un o bedwar cwmwd cantref Is Aeron.

Gorweddai Is Coed yn ne-orlewin eithaf Ceredigion, gydag Afon Teifi yn dynodi'r rhan helaeth o'r ffin â Dyfed. Fffiniai â chymydau Caerwedros (i'r gogledd) a Gwynionydd (i'r dwyrain) yng Ngheredigion, a chantref Emlyn a darn o cwmwd Cemais Is Nyfer (cantref Cemais) yn Nyfed i'r de.

Caer Crug Mawr oedd canolfan gynnar y cwmwd. Yn ddiweddarach codwyd cestyll yn Aberteifi, Adpar, a lleoedd eraill.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.