Mebwynion
Gwedd
| Math | cwmwd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Is Aeron |
| Sir | Ceredigion |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.152287°N 4.119619°W |
![]() | |
Cwmwd canoloesol yn ne Teyrnas Ceredigion oedd Mebwynion (ceir y ffurf Mabwnion hefyd weithiau). Gyda Caerwedros, Gwynionydd ac Is Coed, roedd yn un o dri chwmwd cantref Is Aeron.
Cwmwd o dirwedd amrywiol, yn ymestyn o ran isaf Ystrad Aeron (ond heb cyrraedd Bae Ceredigion) hyd ardal Llanbedr Pont Steffan, oedd Mebwynion. Fffiniai â chymydau Pennardd ac Anhuniog i'r gogledd (yng nghantref Uwch Aeron), cymydau Caeo a Mabelfyw yn Ystrad Tywi i'r de-ddwyrain, a chymydau Gwynionydd a Caerwedros i'r gorllewin.
Mae Afon Aeron yn llifo trwy ogledd y cwmwd.
