Caeo (cwmwd)
Jump to navigation
Jump to search
Math |
cwmwd ![]() |
---|---|
| |
Cysylltir gyda |
Llywelyn ap Gruffudd Fychan ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad |
![]() |
Yn ffinio gyda |
Mallaen, Maenor Deilo, Catheiniog, Mabelfyw ![]() |
Cyfesurynnau |
52.055°N 3.957°W ![]() |
![]() | |
- Erthygl am y cwmwd yw hon. Gweler hefyd Caeo (gwahaniaethu).
Cwmwd canoloesol yn gorwedd yng nghanol Y Cantref Mawr yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Caeo. Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.
Gorweddai cwmwd Caeo yng nghanol y Cantref Mawr, ar ran uchaf cwrs Afon Cothi. Ffiniai â chymydau Mallaen, Maenor Deilo, Catheiniog a Mabelfyw yn y Cantref Mawr, a Mebwynion a Pennardd i'r gogledd yn nheyrnas Ceredigion.
Mae Cynwyl Gaeo, un o gymunedau Sir Gaerfyrddin heddiw, yn cyfateb yn fras i diriogaeth yr hen gwmwd.