Caerwedros (cwmwd)
Jump to navigation
Jump to search
Math |
cwmwd ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ceredigion ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.1732°N 4.384365°W ![]() |
![]() | |
- Erthygl am y cwmwd yw hon. Am y pentref bychan o'r un enw, gweler Caerwedros (pentref).
Cwmwd canoloesol yn ne Teyrnas Ceredigion oedd Caerwedros. Gyda Mebwynion, Gwynionydd ac Is Coed, roedd yn un o dri chwmwd cantref Is Aeron.
Cwmwd arfordirol, yn gorwedd ar lannau Bae Ceredigion, oedd Caerwedros. Ffiniai â chwmwd Anhuniog i'r gogledd (yng nghantref Uwch Aeron), cwmwd Mebwynion i'r dwyrain, a chymydau Gwynionydd ac Is Coed i'r de.
Mae'n bosibl mai yn Llwyndafydd yr oedd canolfan gynnar y cwmwd. Yn ddiweddarach meddiannwyd y cwmwd gan y Normaniaid am gyfnod a chodwyd Castell Caerwedros, ger Llwyndafydd, gan yr Arglwydd Richard de Clare yn 1110.