Neidio i'r cynnwys

Castell Caerwedros

Oddi ar Wicipedia
Castell Caerwedros
MathWikimedia duplicated page Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru

Castell Normanaidd yng Ngheredigion yw Castell Caerwedros. Cyfeiriad Arlowg Ordnans: SN376557.

Dyma un o'r cestyll a adeiladwyd gan yr Arglwydd Richard de Clare tua'r flwyddyn 1110 pan ymosododd y Normaniaid ar Geredigion. Fe'i enwir ar ôl cwmwd Caerwedros, un o bedwar cwmwd cantref Is Aeron. Castell mwnt a beili oedd yr amddiffynfa hon. Cafodd ei losgi gan y brenin Owain Gwynedd mewn cynghrair â Hywel ap Maredudd a Madog ab Idnerth o Ddeheubarth yn ystod ei ymgyrch mawr yn y de yn 1136 (Brut y Tywysogion).

Gorwedd y castell rhwng afon Sodren ac afon Ffynnon Ddewi, tua dwy filltir a hanner i'r de o'r Cei Newydd, ar gyrion pentref bychan Caerwedros. Dim ond twmpath o bridd sydd yno heddiw, ar dir preifat.

Ffynhonnell

[golygu | golygu cod]