Ystlwyf

Oddi ar Wicipedia

Un o wyth cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru oedd Ystlwyf. Yn wreiddiol yn rhan o deyrnas Dyfed, daeth yn rhan o deyrnas Deheubarth. Heddiw mae tiriogaeth y cwmwd yn gorwedd yn ne-orllewin Sir Gaerfyrddin.

Cantref Gwarthaf a'i gymydau

Gorweddai Ystlwyf yng nghanol Cantref Gwarthaf. Cwmwd bychan oedd Ystlwyf, yn ffinio â chymydau eraill yn yr un cantref, sef Talacharn a Phenrhyn i'r de, Peuliniog i'r gorllewin, Elfed i'r gogledd a Derllys i'r dwyrain.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]