Afon Don (Swydd Efrog)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Don
River Don - geograph.org.uk - 146533.jpg
Math afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir De Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 53.519°N 1.762°W, 53.6965°N 0.8663°W Edit this on Wikidata
Aber Afon Trent Edit this on Wikidata
Llednentydd Afon Sheaf, Afon Dearne, Afon Little Don, Afon Loxley, Afon Rother Edit this on Wikidata
Hyd 112 cilometr Edit this on Wikidata
Am afonydd eraill o'r un enw, gweler Afon Don.

Afon yn siroedd De Swydd Efrog a Dwyrain Swydd Efrog yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, yw Afon Don. Mae'n tua 70 milltir (110 km) o hyd.

Mae'n tarddu yn y Pennines ac yn llifo i gyfeiriad y dwyrain, trwy trefi Penistone, Stocksbridge, Sheffield, Rotherham, Swinton, Mexborough, Conisbrough, Doncaster, Stainforth, a Thorne, nes iddi ymuno ag Afon Ouse yn Goole. Afonydd Loxley, Rivelin, Sheaf, Rother a Dearne yw prif lednentydd Afon Don.

Yn wreiddiol ymunodd ag Afon Trent, ond fe'i ailgyfeiriwd gan y peiriannydd Cornelius Vermuyden yn y 1620au. Parhaodd y gwaith o gamlesu’r afon mewn canrifoedd diweddarach, a bellach gall traffig symud mor bell i fyny’r afon â Sheffield.

Cwrs Afon Don

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]