Riding Gorllewinol Swydd Efrog

Oddi ar Wicipedia
Riding Gorllewinol Swydd Efrog
Mathriding Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSwydd Efrog Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd6,820.61 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRiding Gogleddol Swydd Efrog, Riding Dwyreiniol Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.75°N 1.6667°W Edit this on Wikidata
Map

Un o dri israniad hanesyddol Swydd Efrog, gogledd-ddwyrain Lloegr, oedd Riding Gorllewinol Swydd Efrog (Saesneg: West Riding of Yorkshire). Rhwng 1889 a 1974 roedd yn sir weinyddol (enw swyddogol: County of York, West Riding).

Roedd ei ffiniau'n cyfateb yn fras i siroedd seremonïol Gorllewin Swydd Efrog a De Swydd Efrog ynghyd ag ardaloedd an-fetropolitan Craven, Harrogate a Selby yng Ngogledd Swydd Efrog heddiw.

Lleoliad y Riding Gorllewinol (coch) a gweddill Swydd Efrog (gwyrdd) yn Lloegr

Roedd yn ffinio â Riding Gogleddol Swydd Efrog a Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i'r dwyrain, Swydd Lincoln a Swydd Nottingham i'r de-ddwyrain, Swydd Derby i'r de, Swydd Gaer a Swydd Gaerhirfryn i'r gorllewin, a Westmorland i'r gogledd.