Riding Dwyreiniol Swydd Efrog (awdurdod unedol)

Oddi ar Wicipedia
Riding Dwyreiniol Swydd Efrog
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr, ardal cyngor sir Edit this on Wikidata
Poblogaeth339,614 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDwyrain Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd2,405.3217 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.91667°N 0.5°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000011 Edit this on Wikidata
GB-ERY Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of East Riding of Yorkshire Council Edit this on Wikidata
Map

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Dwyrain Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Riding Dwyreiniol Swydd Efrog (Saesneg: East Riding of Yorkshire).

Mae gan yr ardal arwynebedd o 2,408 km², gyda 341,173 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Kingston upon Hull i'r de, yn ogystal â siroedd Gogledd Swydd Efrog i'r gogledd a'r gorllewin, De Swydd Efrog i'r de-orllewin, a Swydd Lincoln i'r de.

Awdurdod unedol Riding Dwyreiniol Swydd Efrog yn Nwyrain Swydd Efrog

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1996, pan ddiddymwyd yr hen sir Humberside. Cyn creu Humberside ym 1974 roedd yr ardal hon wedi bod yn rhan o Riding Dwyreiniol Swydd Efrog, un o dri israniad hanesyddol Swydd Efrog.

Rhennir y fwrdeistref yn 171 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Beverley. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Bridlington, Brough, Driffield, Goole, Hedon, Hessle, Hornsea, Howden, Market Weighton, Pocklington, Snaith, South Cave a Withernsea.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 7 Ionawr 2021