Dinas Kingston upon Hull
| Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, ardal gyda statws dinas, bwrdeisdref, ardal ddi-blwyf, bwrdeistref sirol, Bwrdeistref Ddinesig |
|---|---|
| Prifddinas | Kingston upon Hull |
| Poblogaeth | 260,645 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Steve Brady |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dwyrain Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 71.4498 km² |
| Cyfesurynnau | 53.75°N 0.33333°W |
| Cod SYG | E06000010, E43000010 |
| GB-KHL | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | executive of Hull City Council |
| Corff deddfwriaethol | council of Hull City Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | leader of Hull City Council |
| Pennaeth y Llywodraeth | Steve Brady |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Dwyrain Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Dinas Kingston upon Hull (Saesneg: City of Kingston upon Hull).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 71.4 km², gyda 259,778 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag awdurdod unedol Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i'r gorllewin, i'r gogledd ac i'r dwyrain; hefyd mae'n sefyll gyferbyn â Swydd Lincoln ar lan ddeheuol Afon Humber.

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1996, pan ddiddymwyd sir an-fetropolitan Humberside a oedd wedi'i chreu yn 1974 dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Ar ôl i Humberside gael ei datgymalu, rhannwyd ei rhannau cyfansoddol rhwng Dwyrain Swydd Efrog a Swydd Lincoln. Daeth yr hen ardal an-fetropolitan Kingston upon Hull yn awdurdod unedol annibynnol (yn sir Dwyrain Swydd Efrog at ddibenion seremonïol).
Mae'r awdurdod yn hollol ddi-blwyf. Mae'n cynnwys dim ond dinas Kingston upon Hull ei hun.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 6 Tachwedd 2020
