Cockermouth
Cyfesurynnau: 54°39′41″N 3°21′43″W / 54.6613°N 3.3620°W
Cockermouth | |
![]() Cockermouth gydag Eglwys yr Holl Saint yn y cefndir |
|
![]() |
|
Poblogaeth | 9,146 (2011)[1] |
---|---|
Cyfeirnod grid yr AO | NY121304 |
Ardal | Allerdale |
Swydd | Cumbria |
Rhanbarth | |
Gwlad | Lloegr |
Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Gogledd-orllewin Lloegr |
Senedd y DU | Workington |
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • |
Hen dref farchnad a phlwyf sifil yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Cockermouth. Mae wedi’i lleoli ar gyrion Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd ac roedd ganddi boblogaeth o oddeutu 8,761. Mae Caerdydd 354 km i ffwrdd o Cockermouth ac mae Llundain yn 412 km. Y ddinas agosaf ydy Caerliwelydd sy'n 36.7 km i ffwrdd.
Daw’r enw gan fod tarddiad yr afon Cocker yno. Mae’r afon Derwent hefyd yn llifo drwy’r dref. Y llyn agosaf yw Bassenthwaite, sydd chwe milltir i ffwrdd.
Canwyd y bardd William Wordsworth yn Cockermouth ar 7 Ebrill 1770. Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei fywyd yno cyn cael ei yrru i ysgol ramadeg yn Swydd Gaerhirfryn yn wyth oed. Ffigwr enwog arall sy’n gysylltiedig a'r dref yw Bing Crosby. Bu’r canwr a'r cyflwynydd Americanaidd ar sawl ymweliad ȃ'r dref i bysgota gan aros yng Ngwesty’r Trout, oedd bryd hynny yn eiddo i’r Arglwydd Egremont.
Yn 2009 a 2015, bu i Cockermouth ddioddef o lifogydd drwg. Roedd y brif stryd dan lifogydd ac effeithiwyd ar gannoedd o dai a busnesau.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Bragdy Jennings
- Castell Cockermouth
- Ty Wordsworth
- Gwesty'r Trout (Bwyty Derwent)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ City Population; adalwyd 19 Tachwedd 2017.
Dinasoedd
Caerliwelydd
Trefi
Alston · Ambleside · Appleby-in-Westmorland · Aspatria · Barrow-in-Furness · Bowness-on-Windermere · Brampton · Broughton-in-Furness · Cleator Moor · Cockermouth · Dalton-in-Furness · Egremont · Grange-over-Sands · Harrington · Kendal · Keswick · Kirkby Lonsdale · Kirkby Stephen · Longtown · Maryport · Millom · Penrith · Sedbergh · Silloth · Ulverston · Whitehaven · Wigton · Windermere · Workington