Undod Cenedlaethol Rwsia
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | cenedlaetholdeb |
Dechrau/Sefydlu | 16 Hydref 1990 |
Sylfaenydd | Alexander Barkashov |
Pencadlys | Moscfa |
Enw brodorol | Русское национальное единство |
Gwladwriaeth | Rwsia |
Gwefan | http://rusnation.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Plaid wleidyddol asgell dde eithafol yn Rwsia yw Undod Cenedlaethol Rwsia (UCR) (Rwseg: Всероссийское общественное патриотическое движение neu "Русское Национальное Единство" Russkoye Natsionalnoye Edinstvo). Mae'n blaid dra-genedlaetholgar eithafol a mudiad parafilwrol sy'n gweithredu yn Rwsia ei hun ac mewn gwledydd gyda phoblogaethau Rwseg eu hiaith. Mae'n anodd cyfieithu'r enw yn foddhaol; gellid cynnig "Undod Ethnig Rwsiaidd" hefyd gan fod natsionalnost yn golygu "ethnigrwydd" yn Rwseg. Fe'i sefydlwyd gan y tra-genedlaetholwr Alexander Barkashov. Mae'r mudiad o blaid gyrru pobl sydd ddim yn Rwsiaid allan o'r wlad a chryfhau sefydliadau Rwsiaidd traddodiadol fel Eglwys Uniongred Rwsia. Mae'n cael ei chyfrif fel mudiad Neo-Natsïaidd gyda'r swastika yn un o'i symbolau.
Mae eu bwriad i yrru pobl "an-Rwsiaidd" o'r wlad yn cael ei anelu'n bennaf at Iddewon a phobl ethnig o'r Cawcasws, fel Azeriaid, Georgiaid ac Armeniaid. Maent yn rhagweld creu Rwsia "buredig" a fyddai'n rhanedig ar sail tras ethnig, gyda'r Rwsiaid ethnig "pur" yn mwynhau statws uwch na'r "cydwladwyr", sef grwpiau ethnig sydd â'u mamwladau yn Rwsia ei hun, fel yn achos pobloedd brodorol Dwyrain Pell Rwsia a'r Rwsia Arctig. Cyhuddwyd UCR o ymladd yn Chechnya ochr yn ochr â'r Fyddin Rwsiaidd yn erbyn y gwrthryfelwyr brodorol.
Bu gan y mudiad tua 100,000 o aelodau ar un adeg ac er bod nifer yr aelodau wedi gostwng mae'n dal i fod yn ddylanwadol ac yn un o'r grwpiau de eithafol cryfaf yn Rwsia.