Ngô Đình Diệm
Ngô Đình Diệm | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Ionawr 1901 ![]() Huế ![]() |
Bu farw | 2 Tachwedd 1963 ![]() Dinas Ho Chi Minh ![]() |
Man preswyl | Tran Le Xuan Villa ![]() |
Dinasyddiaeth | De Fietnam, Indo-Tsieina Ffrengig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | President of South Vietnam ![]() |
Plaid Wleidyddol | Personalist Labor Revolutionary Party ![]() |
Tad | Ngô Đình Khả ![]() |
Llinach | Nguyen dynasty ![]() |
Gwobr/au | Order of Merit for National Foundation, Urdd Sikatuna, Urdd Croes y De, Urdd y Llew Gwyn, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia, Urdd Teilyngdod Dinesig, Urdd Llew'r Iseldiroedd, Urdd Anrhydedd Gweriniaeth yr Eidal, Urdd Sant Olav ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Arlywydd cyntaf De Fietnam oedd Ngô Đình Diệm ( ynganiad ) (3 Ionawr 1901 – 2 Tachwedd 1963). Wedi i Ffrainc encilio o Indo-Tsieina o ganlyniad i Gytundeb Genefa ym 1954, arweiniodd Diệm yr ymdrech dros greu Gweriniaeth Fietnam. Enillodd cryn cefnogaeth gan yr Unol Daleithiau oherwydd ei wrth-gomiwnyddiaeth gryf, ac ym 1955 enillodd buddugoliaeth mewn refferendwm a ystyrid wedi'i dwyllo. Datganodd ei hunan yn arlywydd cyntaf y Weriniaeth, a dangosodd sgìl gwleidyddol sylweddol wrth atgyfnerthu'i rym, ac yr oedd ei lywodraeth yn awdurdodaidd, elitaidd, nepotistaidd, a llwgr. Roedd Diệm yn Gatholig a gweithredodd polisïau oedd yn poeni ac yn gormesu y brodorion Degar a mwyafrif Bwdhaidd y wlad. Ynghanol protestiadau crefyddol a dderbynodd sylw rhyngwladol, collodd Diệm ei gefnogaeth gan yr Unol Daleithiau a chafodd ei fradlofruddio gan Nguyen Van Nhung, gweinydd y Cadfridog Duong Van Minh o'r ARVN ar 2 Tachwedd 1963, yn ystod coup d'état a ddymchwelodd ei lywodraeth.