Coup d'état De Fietnam (1963)

Oddi ar Wicipedia
Coup d'état De Fietnam
Enghraifft o'r canlynolcoup d'état Edit this on Wikidata
Dyddiad1 Tachwedd 1963 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfel Fietnam Edit this on Wikidata
LleoliadDinas Ho Chi Minh Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethDe Fietnam Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn Nhachwedd 1963 cafodd Ngô Đình Diệm, Arlywydd De Fietnam, ei ddymchwel mewn coup d'état gan garfan o swyddogion Byddin Gweriniaeth Fietnam oedd yn anghytuno â'i fodd o ymateb i'r argyfwng Bwdhaidd a'i ormes o grwpiau cenedlaethol wrth frwydro yn erbyn y Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol. Cychwynnodd y coup ar 1 Tachwedd dan arweiniad y Cadfridog Dương Văn Minh, a chafodd Diệm a'i frawd Ngô Ðình Nhu eu dal a'u lladd ar 2 Tachwedd.

Roedd gweinyddiaeth John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ymwybodol o'r cynlluniau am coup, ond datganodd "Cebl 243"—neges a ddanfonwyd at y Llysgennad Henry Cabot Lodge, Jr. gan yr Adran Wladol—yr oedd yn bolisi yr Unol Daleithiau i beidio ag atal dymchweliad Diệm.

Eginyn erthygl sydd uchod am Fietnam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.