Henry Kissinger

Oddi ar Wicipedia
Henry Kissinger
Henry Kissinger


Cyfnod yn y swydd
22 Medi 1973 – 20 Ionawr 1977
Rhagflaenydd William Rogers
Olynydd Cyrus Vance

Cyfnod yn y swydd
20 Ionawr 1969 – 3 Tachwedd 1975
Rhagflaenydd Walt Rostow
Olynydd Brent Scowcroft

Geni 27 Mai 1923
Fürth, Yr Almaen
Marw 29 Tachwedd 2023
Kent, Connecticut, UDA
Plaid wleidyddol Gweriniathol
Priod Ann Fleischer (p. 1949; ysgariad 1964) Nancy Maginnes (p. 1974)
Plant Elizabeth a David
Llofnod

Gwyddonydd gwleidyddol a diplomydd o Americanwr a aned yn yr Almaen oedd Henry Alfred Kissinger (27 Mai 192329 Tachwedd 2023) a dderbynodd Gwobr Heddwch Nobel. Gwasanaethodd fel Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol ac yn hwyrach ar y cyd fel Ysgrifennydd y Wladwriaeth yng ngweinyddiaethau'r Arlywyddion Richard Nixon a Gerald Ford.

O 1969 hyd 1977, chwaraeodd Kissinger rhan flaenllaw ym mholisi tramor yr Unol Daleithiau gan ymarfer safbwynt Realpolitik. Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd polisi détente â'r Undeb Sofietaidd, dilynodd polisi o nesâd â Gweriniaeth Pobl Tsieina, a thrafododd Cytundebau Heddwch Paris gan ddod ag ymyrraeth Americanaidd yn Rhyfel Fiet Nam i ben.

Roedd Kissinger yn ffigur dadleuol ac yn gadeirydd Kissinger Associates, busnes ymgynghori rhyngwladol. Roedd nifer o arlywyddion Americanaidd ac arweinwyr eraill o gwmpas y byd yn cymeryd ei farn a'i gyngor. Mae awdurdodau yn Ffrainc, Sbaen, Chile, a'r Ariannin wedi ceisio cwestiynu Kissinger am ei ran yn Ymgyrch Condor.

Bu farw Kissinger yn ei cartref yn Kent, Connecticut, yn 100 oed.[1][2]

Bywyd a gyrfa gynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Henry Alfred Kissinger yn Fürth, yr Almaen, ar 27 Mai 1923. Daeth ef a'i deulu i Ddinas Efrog Newydd gan ffoi o'r Natsïaid ym 1938 a chafodd ei dderbyn yn ddinesydd Americanaidd ar 19 Mehefin 1943. O 1943 hyd 1946 gwasanaethodd yng Nghorfflu Gwrth-ysbïwriaeth Byddin yr Unol Daleithiau, gan weithio fel cyfieithydd pan goresgynodd y Cynghreiriaid yr Almaen, ac o 1946 i 1949 roedd yn gapten yn yr Adfyddin Gudd-wybodaeth Filwrol. Enillodd gradd Baglor Celfyddydau o Goleg Harvard ym 1950 a gradd Meistr Celfyddydau ym 1952 a Doethur Athroniaeth ym 1954 o Brifysgol Harvard, gan ysgrifennu traethawd ymchwil ei ddoethuriaeth ar Metternich.

O 1954 hyd 1971 roedd yn aelod o Gyfadran Prifysgol Harvard, yn Adran y Llywodraeth ac yn y Canolfan dros Faterion Rhyngwladol. Fel academydd, roedd yn arbenigwr ar ddiplomyddiaeth Ewropeaidd yn y 18g. Gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Astudiaethau, Arfau Niwclear a Pholisi Tramor, ar gyfer y Council on Foreign Relations o 1955 hyd 1956. Yn ystod arlywyddiaethau Kennedy a Johnson cefnogodd Kissinger y strategaeth "ymateb hyblyg" yn frwd tra roedd yn aelod o felinau trafod megis y RAND Corporation.

Gyrfa lywodraethol[golygu | golygu cod]

Penodwyd Kissinger yn Gynghorydd Diogelwch Cenedlaethol gan Richard Nixon wedi iddo ennill etholiad arlywyddol 1968. Ym 1973 penodwyd yn Ysgrifennydd y Wladwriaeth, swydd a gadwodd hyd i arlywyddiaeth Ford ddod i ben ym 1977. Cadwodd ei swydd fel Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol hyd 1975.

Rhyfel Fietnam[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Kissinger rôl flaenllaw yn Ymgyrch Menu, yr ymgyrch fomio gudd yng Nghambodia, ac Ymgyrch Cambodia a ledaenodd ymyrraeth Americanaidd yn Rhyfel Fietnam i Gambodia. Bwriad yr ymgyrch fomio oedd i dorri cyflenwadau Gogledd Fietnam a chyflymu diwedd i'r rhyfel.

Ym 1973 enillodd Kissinger, ynghŷd â Le Duc Tho, aelod o Politburo Gogledd Fietnam, Gwobr Heddwch Nobel am drafod Cytundebau Heddwch Paris gan ddod i gytundeb ar gadoediad. Gwrthododd Tho'r wobr, gan honni nad oedd heddwch wedi dychwelyd i Fietnam. Parhaodd y rhyfel hyd gwymp Saigon ym 1975 a buddugoliaeth y Gogledd comiwnyddol.

Gweriniaeth Pobl Tsieina[golygu | golygu cod]

Kissinger, Zhou Enlai (canol) a Mao Zedong (dde)

Cynhalodd Kissinger cyfarfodydd cudd â'r Tsieineaid mewn ymgais i ennill nesâd yng nghysylltiadau rhwng yr Unol Daleithiau a Gweriniaeth Pobl Tsieina, a arweiniodd at daith Nixon i Tsieina ym 1972.

Y Dwyrain Canol[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd rhan yn y ddiplomyddiaeth gwenoli a ddaeth â therfyn i Ryfel Yom Kippur ym 1973.

America Ladin[golygu | golygu cod]

Cyhuddir Kissinger o gefnogi coup d'état a ddymchwelodd Salvador Allende, Arlywydd Chile, ym 1973.

Dwyrain Timor[golygu | golygu cod]

Ym 1975 goresgynnwyd y cyn-drefedigaeth Bortiwgalaidd Dwyrain Timor gan Indonesia yn sgîl Chwyldro'r Carnasiynau a sbardunodd datrefedigaethu yng nghyn-ymerodraeth Portiwgal. Ym mis Rhagfyr 1975 ymwelodd yr Arlywydd Ford a Kissinger â Suharto, Arlywydd Indonesia, yn Jakarta. Trafodant ei gynllun i oresgyn Dwyrain Timor, a chadarnhaodd Ford a Kissinger na fydd cysylltiadau rhwng Indonesia a'r Unol Daleithiau yn dioddef o ganlyniad i hyn. Gadawodd Ford a Kissinger y wlad ar 7 Rhagfyr ac aeth lluoedd Indonesia i mewn i Ddwyrain Timor yn hwyrach y diwrnod hwnna. Parhaodd y feddiannaeth am 24 mlynedd.

Ar ôl gadael y llywodraeth[golygu | golygu cod]

Penodwyd Kissinger gan yr Arlywydd George W. Bush i gadeirio Comisiwn 9/11 ar 27 Tachwedd 2002. Ymhen ychydig o wythnosau, ymddiswyddodd oherwydd gwrthododd i ddatgelu enwau cleientiaid Kissinger Associates, ynghylch pryderon am wrthdaro buddiannau.[3]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Henry a Nancy Kissinger yn 2008.

Priododd Ann Fleischer ym 1949 a chafodd dau blentyn, Elizabeth a David, cyn ysgaru ym 1964. Ym 1974 priododd Nancy Maginnes.

Delwedd[golygu | golygu cod]

Mae nifer o awduron a sylwebwyr, megis Christopher Hitchens, wedi cyhuddo Kissinger o droseddau rhyfel a throseddau eraill yn erbyn cyfraith ryngwladol. Mae ymgeision gan awdurdodau Ffrainc, Sbaen, Chile, a'r Ariannin i'w gwestiynu am ei ran yn Ymgyrch Condor wedi methu hyd yn hyn.

Rhwng ei ddwy briodas, daeth Kissinger yn symbol rhyw, gan ennill y llysenw Henry the Kiss ("Henry'r Cusan").[4] Enillodd enw am fod yn hoff o fwyd, gwin a chwaraeon, yn enwedig pêl-droed. Adnabyddir hefyd fel dyn arabus.[5]

Credir rhai taw Kissinger oedd yr ysbydoliaeth am y ffilm Dr. Strangelove.[4] Canwyd cân amdano gan Eric Idle ar Monty Python's Contractual Obligation Album, albwm Monty Python a ryddhawyd ym 1980.[6]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Hunangofiannau[golygu | golygu cod]

Arall[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sanger, David E. (29 Tachwedd 2023). "Henry Kissinger Is Dead at 100; Shaped Nation's Cold War History". The New York Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2023.
  2. Pengelly, Martin (30 Tachwedd 2023). "Henry Kissinger, secretary of state to Richard Nixon, dies at 100". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 2023-11-30.
  3. (Saesneg) Kissinger resigns as head of 9/11 commission. CNN (13 Rhagfyr 2002).
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Frost, Caroline. Henry Kissinger: Profile. BBC.
  5. (Saesneg) The Nation: Henry Kissinger Off Duty. TIME (7 Chwefror, 1972).
  6. "Henry Kissinger" gan Monty Python ar YouTube.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Dallek, R. Nixon and Kissinger: Partners in Power (Llundain, Penguin, 2008).
  • Hitchens, C. The Trial of Henry Kissinger (Llundain, Verso, 2001).
  • Horne, A. 1973: Kissinger's Year (Llundain, Weidenfeld & Nicolson, 2009).
  • Isaacson, W. Kissinger: A Biography (Efrog Newydd, Touchstone, 1992).
  • Landau, D. Kissinger: The Uses of Power (Llundain, Robson, 1974).
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Walt Whitman Rostow
Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol
19691975
Olynydd:
Brent Scowcroft
Rhagflaenydd:
William P. Rogers
Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau
19731977
Olynydd:
Cyrus Vance