Suharto
Suharto | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 8 Mehefin 1921 ![]() Kemusuk ![]() |
Bu farw | 27 Ionawr 2008 ![]() Jakarta ![]() |
Dinasyddiaeth | Indonesia, Dutch East Indies ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol ![]() |
Swydd | Secretary General of the Non-Aligned Movement, Arlywydd Indonesia ![]() |
Taldra | 1.68 metr ![]() |
Plaid Wleidyddol | Golongan Karya Party ![]() |
Tad | Kertosudiro ![]() |
Mam | Sukirah ![]() |
Priod | Tien Soeharto ![]() |
Plant | Tutut Soeharto, Sigit Harjojudanto, Bambang Trihatmodjo, Siti Hediati Hariyadi, Tommy Suharto, Mamiek Soeharto ![]() |
Gwobr/au | Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Coler Urdd Isabella y Catholig, Grand Cross of the Order of Good Hope, Great Nile necklace, Star of the Republic of Indonesia, Bintang Mahaputra, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Order of the Chrysanthemum, Urdd Sikatuna, Urdd Rajamitrabhorn, Urdd dros ryddid, Order of Merit for National Foundation, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia, Order of Propitious Clouds, Urdd Brenhinol y Seraffim, Order of Pahlavi, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of Mubarak the Great, Urdd y Seren Iwgoslaf, Order of the Queen of Sheba, Order of Independence (Qatar), Urdd yr Eliffant, National Order of Merit, Uwch Urdd Mugunghwa ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Arlywydd Indonesia rhwng 1967 a 1998 oedd Suharto (8 Mehefin 1921 - 27 Ionawr 2008).
Ganed ef yn Kemusuk ar ynys Jafa, i deulu o ffermwyr tlawd. Ymunodd a'r fyddin pan oedd y wlad yn rhan o ymerodraeth yr Iseldiroedd. Erbyn 1965 roedd yn gadfridog yn y fyddin. Ar 1 Hydref y flwyddyn honno lladdwyd nifer o gadfridogion pan geisiodd adran o'r fyddin oedd yn gysylltiedig â Phlaid Gomiwnyddol Indonesia gipio grym. Suharto oedd y swyddog uchaf oedd mewn sefyllfa i wrthwynebu'r ymgais, a gallodd orchfygu y gwrthryfelwyr. Ymatebodd y fyddin, dan arweiniad Suharto, trwy ladd miloedd lawer o gomiwnyddion ac eraill y dywedid eu bod mewn cydymdeimlad â hwy. Credir i rhwng 500,000 a miliwn o bobl gael eu lladd. Wedi hyn, Suharto mewn gwirionedd oedd yn llywodraethu Indonesia, ac nid yr arlywydd Sukarno.
Cafodd ei enwi yn arlywydd dros dro yn 1967, ac ar 21 Mawrth 1968 daeth yn swyddogol yn ail arlywydd Indonesia. Dan ei arlywyddiaeth ef, cafodd y wlad gyfnod o dŵf economaidd, ond bu cwynion am ddiffyg parch i hawliau dynol, llygredd a diffyg democratiaeth. Wedi cyfnod o derfysg ar y strydoedd, ymddiswyddodd ar 21 Mai 1998.
Roedd yn briod a Siti Hartina ("Tien"), ac roedd ganddynt chwech o blant.
Rhagflaenydd : Sukarno |
Arlywyddion Indonesia Suharto |
Olynydd : Bacharuddin Jusuf Habibie |