Ymosodiad Tết

Oddi ar Wicipedia
Ymosodiad Tết
Enghraifft o'r canlynolymgyrch filwrol, ymosodiad milwrol Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfel Fietnam Edit this on Wikidata
Dechreuwyd30 Ionawr 1968 Edit this on Wikidata
Daeth i ben23 Medi 1968 Edit this on Wikidata
LleoliadDe Fietnam Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolSự kiện Tết Mậu Thân 1968 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFietnam Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymgyrch filwrol ymosodol gan luoedd comiwnyddol Byddin Gogledd Fietnam a'r Vietcong yn erbyn De Fietnam a'r Unol Daleithiau oedd Ymosodiad Tết a ddechreuodd ar 31 Ionawr 1968, gŵyl Tết Nguyên Đán, yn ystod Rhyfel Fietnam. Datganodd Gogledd a De Fietnam y byddent yn rhoi'r gorau i'r brwydro am ddeuddydd yn ystod yr ŵyl. Ar fore 31 Ionawr lansiodd y Vietcong gyfres o gyrchoedd yn Ne Fietnam, ac ymgyrch ehangach ar 1 Chwefror oedd yn targedu mwy na 100 o drefi a dinasoedd yn y De. Roedd yr Ymosodiad yn annisgwyl o safbwynt llywodraeth y De a'r Unol Daleithiau.

Er fod lluoedd De Fietnam a'r Unol Daleithiau yn fuddugol yn dactegol, roedd eu methiant i ragweld yr Ymosodiad yn fuddugoliaeth wleidyddol i'r comiwnyddion. Ystyrid Ymosodiad Tet yn drobwynt yn Rhyfel Fietnam, a roddir pwyslais ar rôl cyfryngau'r Unol Daleithiau wrth sylwebu i'r cyhoedd Americanaidd a newid barn Americanwyr am ymyrraeth eu lluoedd milwrol yn y rhyfel.

Môr-filwyr yr Unol Daleithiau a lluoedd Byddin Gweriniaeth Fietnam yn ystod Brwydr Pentref Hamo, tua Ionawr 1968