Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae'r Adran Amddiffyn (Saesneg: Department of Defense) yn adran weithredol o fewn cangen weithredol llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau.

Arweinir yr Adran gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn, pennaeth o fewn y Cabinet sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Arlywydd. Yr Ysgrifennydd Amddiffyn presennol yw Jim Mattis, yn ei swydd ers 20 Ionawr 2017.

Yn isradd i'r Adran Amddiffyn y mae tair adran filwrol: Adran y Fyddin yr Unol Daleithiau, Adran y Llynges yr Unol Daleithiau, ac Adran y Llu Awyr yr Unol Daleithiau. Yn ogystal, y mae pedwar gwasanaeth cudd-wybodaeth cenedlaethol yn isradd i'r Adran Amddiffyn: yr Asiantaeth Amddiffyn Cudd-wybodaeth (DIA), yr Asiantaeth Ddiogelwch Genedlaethol (NSA), yr Asiantaeth Gudd-wybodaeth Geo-ofodol Genedlaethol (NGA), a'r Swyddfa Rhagchwilio Genedlaethol (NRO).