Louis XIV, brenin Ffrainc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Louis XVI

Brenin Ffrainc o 14 Mai 1643 tan 1715 oedd Louis XIV (Louis-Dieudonné neu le Roi-Soleil) (5 Medi 1638 - 1 Medi 1715). Bu'n frenin am gyfnod hirach nag unrhyw frenin arall, o genedl a'r maint hwn: 72 blwyddyn a 110 diwrnod.[1]

I louis mae'r diolch am gryfhau Ffrainc yn uned a oedd yn cael ei rheoli o'i phrifddinas, Paris. Dileodd y syniad fod ffiwdaliaeth yn dderbyniol i raddau helaeth. A thrwy fynu fod yr uchelwyr cefnog yn byw yn ei balas yn Versailles, a oedd cyn hynny'n blasty hela, llwyddodd i ddofi'r pendefigion, hyd yn oed y rhai hynny a fu'n aelodau o Wrthryfel y Fronde.

Plentyndod a phriodas[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei eni yn Saint-Germain-en-Laye, yn Île-de-France yn nghanol-gogledd Ffrainc. Ei dad oedd y Brenin Louis XIII a'i fam oedd Ann o Awstria (1601 – 1666). Fe'i galwyd yn Louis Dieudonné (Louis, rhodd gan Dduw)[2] ynghyd a'r teitl traddodiadol, Ffrengig y darpar frenin: Y Dauphin.[3] Pan anwyd ef roedd ei rieni wedi bob yn briod am 23 mlynedd, ac wedi colli pedwar plentyn ar eu genedigaeth, rhwng 1619 ac 1631. Roedd y gwleidyddion ac uchelwyr y cyfnod, felly, gweld geni Louis yn rodd gan Dduw, ac yn wyrth.

Ei wraig gyntaf oedd Maria Teresa o Awstria (1638-1683) (Sbaeneg: María Teresa; Ffrangeg: Marie-Thérèse), tywysoges o Sbaen. Cawsant chwech o blant ond un yn unig a dyfodd yn oedolyn: Monseigneur. Bu farw Maria Teresa yn 1683 a phriododd Louis ei gariad newydd Madame de Maintenon yng ngaeaf 1685-86.

Rhagflaenydd:
Louis XIII
Brenin Ffrainc
14 Mai 16431 Medi 1714
Olynydd:
Louis XV

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]



Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Louis XIV". MSN Encarta. 2008. Archifwyd from y gwreiddiol on 1 Tachwedd 2009. http://www.webcitation.org/query?id=1257052204396412. Adalwyd 20 Ionawr 2008.
  2. Brémond, Henri (1908). La Provence mystique au XVIIe siècle (in French). Paris: Plon-Nourrit. pp. 381–382. 
  3. François Bluche (translated by Mark Greengrass (1990). Louis XIV. New York: Franklin Watts. p. 11. ISBN 0-531-15112-3.