Mur
Jump to navigation
Jump to search
Arwyneb fertigol sy'n gwahanu gwagle, e.e. mewn tŷ, neu sy'n gorwedd rhwng dau ddarn o dir i'w gwahanu, yw mur neu wal. Yr hen air Celtaidd oedd magwyr fel a geir heddiw yn y gair blodau'r fagwyr.
Mae daeareg ardaloedd yn wahanol, gan fod y garreg a geir yno'n lleol, ac yn amrywiol iawn. Mae hyn yn rhoi gwedd wahanol i waliau'r ardal. Yng Nghymru, fel llawer o wledydd eraill, roedd y grefft o godi wal sych (heb forter i'w chynnal) yn hynod bwysig gan fod waliau o'r fath yn rhoi lloches i ddefaid a ffin rhwng dau ffermwr.
Enghraifft debyg, gyda'r cerrig hyn wedi dod o lannau Llyn Mwyngil
Muriau o fri[golygu | golygu cod y dudalen]
- Mur Antoninus, mur Rhufeinig ym Mhrydain
- Mur Berlin, a oedd yn gwahanu Gorllewin a Dwyrain Berlin
- Mur Hadrian, mur Rhufeinig ym Mhrydain
- Mur Israelaidd y Lan Orllewinol, mur diogelwch dadleuol rhwng Palesteina ac Israel
- Mur Mawr Tsieina, y mur mwyaf yn y byd
- Mur Mawr CfA2, y gwrthrych mwyaf yn y bydysawd