Mur Mawr (seryddiaeth)

Oddi ar Wicipedia
Mur Mawr
Enghraifft o'r canlynolmur o alaethau Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1989 Edit this on Wikidata
Rhan obydysawd gweladwy Edit this on Wikidata
Yn cynnwysUwch Clwstwr Coma, Hercules Superclusters Edit this on Wikidata
Hyd500,000,000 blwyddyn golau Edit this on Wikidata
Mae'r ethygl hon yn ymwneud â'r Mur Mawr CfA2. Gweler hefyd Mur Mawr Sloan a'r dudalen gwahaniaethu Mur Mawr.

Y Mur Mawr, y cyfeirir ato'n fwy penodol weithiau fel Mur Mawr CfA2, yw'r uwch-strwythr ail fwyaf yn y bydysawd y gwyddwn amdano. Edefyn galaethau o galaethau ydyw, tua 200 miliwn blwyddyn golau i ffwrdd ac sydd â hyd o dros 500 miliwn blwyddyn golau a lled o 300 miliwn blwyddyn golau, ac eto nid yw ei drwch ond 15 miliwn blwyddyn golau. Fe'i darganfuwyd yn 1989 gan Margaret Geller a John Huchra yn eu gwaith seiliedig ar ddadansoddi data o arolwg sifft coch gan y CfA Redshift Survey[1].

Ni ellir gwybod ar hyn o bryd i ba raddau mae'r Mur Mawr yn ymestyn ymhellach oherwydd plân Galaeth y Llwybr Llaethog y lleolir y Ddaear arni. Mae mater rhyngseryddol (nwy a llwch) sy'n perthyn i'r Llwybr Llaethog yn amharu ar arsyllu seryddwyr ac felly does dim modd gwybod ei faint terfynol.

Damcaniaethir fod strwythurau fel y Mur Mawr yn ffurfio ar hyd edafedd tebyg i we o fater tywyll ac yn eu dilyn. Damcaniaethir ymhellach fod y mater tywyll hwn yn penderfynu strwythr y bydysawd ar y raddfa fwyaf. Mae disgyrchiant mater tywyll yn atynu mater rheolaidd, a'r mater rheolaidd 'normal' hwn a welir gan seryddwyr yn ymffurfio fel muriau "tenau" syth yn glysterau Uwch-alaethol.

Does dim ond un strwythr yn y bydysawd sy'n fwy na'r Mur Mawr. Mur Mawr Sloan yw hwnnw, a ddarganfuwyd yn 2003 mewn data gan Arolwg Awyr Digidol Sloan; mae'n gorwedd tua biliwn o flynyddoedd golau (1 giga-flwyddyn golau) i ffwrdd, ac mae ganddo hyd o tua 1.4 giga-flwyddyn golau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]