Mur Israelaidd y Lan Orllewinol

Mur sydd wrthi'n cael ei godi gan wladwriaeth Israel (o fewn tiriogaeth y Lan Orllewinol yn bennaf) yw Mur Israelaidd y Lan Orllewinol. Mur o slabiau concrid ydyw yn bennaf.

Mae'r Mur yn ddadleuol iawn. Hona'r awdurdodau Israeliaidd fod angen y mur er mwyn rhwystro terfysgwyr rhag croesi o'r Lan Orllewinol i dir Israel i ymosod. Bu gostyngiad o 90% yn yr ymosodiadau yn erbyn Israel rhwng 2002 a 2005;[1]. Hona wrthwynebwyr y Mur ei fod yn ymdrech anghyfreithlon i wladychu tir Palesteinaidd, dan esgus diogelwch,[2] ei fod yn torri cyfraith rhyngwladol,[3] y fyddai'n gallu rhagfarnu trafodaethau ar statws terfynol y tir,[4] a'i fod yn cwtogi rhyddid Palesteiniaid sy'n byw'n gyfagos, yn rhwystro rhag iddynt teithio o fewn y Lan Orllewinol neu i Israel, gan danseilio eu heconomi (a oedd eisoes yn wan).[5]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Wall Street Journal, "After Sharon", 6 Ionawr, 2006.
- ↑ Under the Guise of Security, B'Tselem
- ↑ "U.N. court rules West Bank barrier illegal" (CNN)
- ↑ Set in stone, The Guardian, 15 Mehefin, 2003
- ↑ "The West Bank Wall - Unmaking Palestine". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2007-03-17.