Cegin

Oddi ar Wicipedia
Cegin
Mathystafell Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cegin
Gweler hefyd Afon Cegin

Ystafell lle y gwneir y coginio yw cegin yn yr oes fodern. Yn draddodiadol yng Nghymru byddai cegin bron a bod yn cyfateb i ystafell fyw lle yr oedd y lle tân. Ar ffermydd Cymru byddai yn aml gegin fach a chegin fawr.

Mae enghraifft o gegin draddodiadol ynghyd ag offer cegin i'w gweld yn y Plasdy yn Amgueddfa Werin Cymru, San Ffagan. Ysgrifennodd Iorwerth Peate, curadur cyntaf yr Amgueddfa Werin soned enwog am gegin yr amgueddfa

Eginyn erthygl sydd uchod am fwyd neu ddiod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am cegin
yn Wiciadur.