Afon Cegin
Gwedd
Afon Cegin yn llifo i Afon Menai ym Mhorth Penrhyn | |
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.23°N 4.11°W |
| Tarddiad | Ffynnon Cegin Arthur |
| Aber | Porth Penrhyn |
![]() | |
Mae Afon Cegin yn afon fechan sy'n llifo i Afon Menai ychydig i'r dwyrain o ddinas Bangor, Gwynedd.
Tarddle'r afon yw Ffynnon Cegin Arthur, gerllaw Penisarwaen. Mae'n llifo heibio Pentir a Glasinfryn, yna rhwng Stâd Ddiwydiannol Llandygai a stâd dai Maesgeirchen cyn cyrraedd y môr yn Abercegin, lle'r adeiladwyd porthladd Porth Penrhyn. Afon Cegin oedd y ffin rhwng cantrefi Arfon ac Arllechwedd.
Bu farw'r bardd Dafydd Ddu Eryri trwy foddi yn yr afon yn 1822.
Ail-agorwyd trac yr hen reilffordd oedd yn rhedeg wrth ochr yr afon fel Lôn Las Ogwen ar gyfer beicwyr a cherddwyr.
