Lôn Las Ogwen

Oddi ar Wicipedia
Lôn Las Ogwen
Mathlong-distance cycling route Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2347°N 4.1113°W Edit this on Wikidata
Map

Llwybr beicio yn sir Gwynedd yw Lôn Las Ogwen. Mae'n llwybr 10 milltir o hyd sy'n cysylltu Porth Penrhyn, ger Bangor, a Llyn Ogwen yn Eryri. Mae'n rhan o rwydwaith Sustrans. Gellir ei cherdded hefyd, yn enwedig ar y rhan ddidraffig.

Gan ddilyn y Lôn o Lyn Ogwen i Borth Penrhyn, mae ei llwybr yn rhedeg fel a ganlyn:

Mae'n gychwyn ger Llyn Ogwen a dilyn rhan o'r A5 hyd Fwthyn Ogwen ac yna disgyn yn syrth i lawr i Nant Ffrancon ar hyd ffordd un lôn - llwybr yr hen ffordd trwy Nant Ffrancon cyn adeiladu'r A5 - hyd at gyrion Bethesda ar ôl croesi Afon Ogwen. Yna mae'r lôn yn croesi'r afon eto ac yn dringo i bentref Tregarth ar ochr orllewinol Dyffryn Ogwen.

O Dregarth ymlaen mae'r lôn yn ddi-draffig ac yn dilyn hen draciau Rheilffordd Chwarel y Penrhyn drwy goedwigoedd llydanddeiliog, heibio i bentref Glasinfryn ac Ystad Ddiwydiannol Llandygái, dros Afon Cegin ac ymlaen i orffen ym Mhorth Penrhyn.

Bydd y llwybr yn cael ei gwblhau yn 2017 gyda agoriad llwybr drwy hen dwnnel trên rhwng Bethesda a Thregarth. Llysenw lleol y twnnel oedd 'Tynal Tywyll' a daeth hyn yn enw ar y band o Dregarth, Tynal Tywyll.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]