Rheilffordd Chwarel y Penrhyn
![]() | |
Math | llinell rheilffordd ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1798 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.194167°N 4.082085°W ![]() |
Hyd | 9.7 cilometr ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN417 ![]() |
Roedd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn yn rheilffordd oedd yn cysylltu Chwarel y Penrhyn gerllaw Bethesda a dociau Porth Penrhyn gerllaw Bangor. Dechreuodd y rheilffordd fel Tramffordd Llandygai yn 1798. Yn 1801, cymerwyd lle Tramffordd Llandygai gan Reilffordd y Penrhyn, yn dilyn trac gwahanol. Roedd tua 6 milltir o hyd.
Adeiladwyd Tramffordd Llandygai, oedd tua milltir o hyd, gan Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn. Roedd yn cludo fflintiau o felin fflintiau ger afon Cegin i Borth Penrhyn. Yn 1801, adeiladwyd rheilffordd i gysylltu Chwarel y Penrhyn a Porth Penrhyn, oedd yn defnyddio ceffylau a disgyrchiant i dynnu'r wagenni. Yn 1878 dechreuwyd defnyddio trenau ager.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/84/Bridge_over_old_railway_line_-_geograph.org.uk_-_110361.jpg/250px-Bridge_over_old_railway_line_-_geograph.org.uk_-_110361.jpg)
Caewyd y rheilffordd yn 1962. Mae rhan o'r hen drac yn awr yn ffurfio rhan o Lôn Las Ogwen.
-
Tramffordd Llandygai
-
Rheilffordd y Penrhyn (1801-1878)
-
Rheilffordd Chwarel y Penrhyn (1878-1962)